Pont y Fenni
![]() | |
Math | pont ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Fenni ![]() |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 44.8 metr, 44.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8196°N 3.02928°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM010 ![]() |
Pont garreg sy'n croesi Afon Wysg yn Sir Fynwy, Cymru, yw Pont y Fenni. Saif i'r de o dref y Fenni. Mae'n cludo ffordd yr A4143, sy'n ymuno ag y A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd) ym mhentref Llan-ffwyst ar y lan deheuol.
Cofnodwyd i'r bont gael ei hadeiladu yn y 15g gan Siasbar Tudur, Dug Bedford a Barwn y Fenni yn ystod teyrnasiad Harri VI. Mae'n strwythur cyfansawdd o dri chyfnod. Mae'r bwâu a'r pierau i lawr yr afon yn perthyn i'r bont wreiddiol o'r 15g, tra bod y rhai i fyny'r afon yn rhan o bont dramffordd (1811) a oedd yn cludo Rheilffordd Llanfihangel o'r gamlas yn Llan-ffwyst. Mae'r ffordd a'r parapet yn dyddio o 1868 pan gyfunwyd y ddwy bont.[1]
Mae gan y bont garreg saith bwa. Rhwng y pierau y mae dorddyfroedd (Saesneg: cutwaters) trionglog anghyson o ran siâp. Mae'r bwâu'n fwy pigfain ar yr ochr i lawr yr afon. Ym mhen y Fenni mae dau fwa llifogydd isel gydag ategwaith grisiog rhyngddynt. Mae'r bont wedi'i lledu i'r ochr i fyny'r afon, sydd â bwâu o siâp mwy rheolaidd gyda'r torddyfroedd rhyngddynt wedi'u codi o dan y parapet newydd. Ar yr ochr i fyny'r afon mae corbelau ar gyfer hen barapet. Mae’r holl afreoleidd-dra yn y gwaith adeiladu yn tystio i’r newidiadau ac addasiadau niferus a gafodd y bont dros y canrifoedd.
I’r gorllewin o’r bont ffordd mae olion hen bont reilffordd LNWR, lein i Ferthyr Tudful a fu’n gweithredu o 1860 i 1958.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llun dyfrlliw o'r bont (1798) gan J. M. W. Turner
-
Y bont o'r dwyrain
-
Sylwer ar yr amrywiad yn siâp y bwâu a'r pierau.
-
Gweler hen gorbelau uwchben y bwa.
-
Gweddillion ategwaith yr hen bont reilffordd LNWR a leolwyd i'r gorllewin o'r bont ffordd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Usk Road Bridge; Abergavenny Bridge, Abergavenny", Coflein; adalwyd 15 Chwefror 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Usk Bridge (also known as Abergavenny Bridge)", British Listed Buildings