Neidio i'r cynnwys

Pont Robat

Oddi ar Wicipedia
Pont Robat
clawr y gyfrol
Enghraifft o:ffars Gymraeg
Dyddiad cynharaf1981
AwdurHuw Roberts
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
Dyddiad cyhoeddi1982
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Argaeleddallan o brint
Dynodwyr

Ffars o waith y dramodydd Huw Roberts yw Pont Robat. Dyma'r ail ddrama o drioled gan y dramodydd, gyda Hywel A yn ei ragflaenu a Plas Dafydd yn cwblhau'r drioled. Cwmni Theatr Cymru fu'n gyfrifol am lwyfannu'r gwaith a hynny yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i Chyffiniau ym 1981.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Gwenhwyfar
  • Peredur
  • Dyn Diarth
  • Jac
  • Beti
  • Caleb
  • Rahel
  • Parri

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

"Wedi Hywel, wele Robat!" meddai cyfarwyddwr y cynhyrchiad, John Ogwen, yn ei Ragair i'r cyhoeddiad.[1] Disgrifiodd y ddrama fel un "crefftus". Lleolir y ddrama mewn "ystafell dderbyn mewn gwesty hen ffasiwn a fu unwaith yn foethus a goludog, ond sydd erbyn heddiw yn edrych ei oed."[1]

Mae perchennog y gwesty, Robat Morgan, wedi marw, ac mae ei ferch-yng-nghyfraith, Gwenhwyfar a'i ŵyr Peredur, yn paratoi at ei angladd. Mae Gwenhwyfar yn wraig weddw, ac mae unig fab Robat sy'n fyw, Harri, ar goll. Buan iawn y down i wybod bod gan Harri deimladau rhamantaidd ar un adeg, tuag at ei chwaer-yng-nghyfraith hefyd.

Yr unig gysylltiad rhwng y gwesty a'r maes parcio yw'r hen bont raffau, sef y Pont Robat a gyfeirir ato yn enw'r ddrama. Dyma un o gŵynion mawr y gwesty, bod y bont ddim yn ddiogel, ac mae pawb (gan gynnwys yr ymgymerwyr angladdol) yn gwrthod ei chroesi. Ni fu ymwelwyr yn aros yno ers sawl blwyddyn, ac mae'r adeilad wedi dirywio. Mae teulu Gwenhwyfar yn meddwl am yr ewyllys, ac yn gobeithio etifeddu'r gwesty, gan efallai, ei droi yn westy iechyd. Ond mae gan sawl cymeriad arall hefyd gynlluniau i fod yn berchen ar y gwesty, ac i ganfod cymar newydd i Gwenhwyfar. Ond yn gyntaf, rhaid chwilio am staff.

Buan iawn y daw ymwelwyr amheus i aros yn y gwesty, sy'n codi trafferth i'r teulu, ac yn creu tensiwn a llanast mawr. Mae nhw'n smalio bod yn "staff redi-mêd", ond mae'r gynulleidfa eisoes yn gwybod mai lladron ydynt.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Rhaglen cynhyrchiad 1981
Cast Pont Robat 1981

Llwyfannwyd y ddrama gyntaf ar y 3 Awst 1981 yn Theatr y Werin, Aberystwyth, gan Gwmni Theatr Cymru. Cyfarwyddwr : John Ogwen; cynllunydd : Martin Morley; goleuo : Huw Roberts; cast:


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Roberts, Huw (1981). Pont Robat. Gwasg Carreg Gwalch.