Pont Manhattan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pont Manhattan
Manhattan Bridge 2007.jpg
Mathpont grog, double-decker bridge, pont ffordd, pont reilffordd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Gorffennaf 1910 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManhattan, Brooklyn Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.7072°N 73.9908°W Edit this on Wikidata
Hyd2,090 metr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethlleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion
Deunydddur Edit this on Wikidata

Mae Pont Manhattan yn bont grog ar draws yr Afon Dwyrain yn Ninas Efrog Newydd, rhwng Manhattan a Brooklyn. Hyd y bont yw 6855 troedfedd. Mae’n un o bedair pont rhwng Manhattan a Long Island. Cynlluniwyd y bont gan Leon Moisseiff ac adeiladwyd gan Gwmni Pont Phoenix o Phoenixville, Pensylvania. Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909.

Pont Manhattan o Brooklyn

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynllunio a pharatoad[golygu | golygu cod y dudalen]

Crewyd y cynllun cynharaf gan R. S. Buck.[1] Buasai’r bont yn bont grog, yn cynnwys cablenni dur carbon a phâr o dyrrau gyda wyth coes. Buasai’r bont 1470 troedfedd o hyd, gyda darnau eraill, 725 troedfedd yr un, yn arwain at y darn canolog.[2] Cyhoeddwyd cynllun ym 1903, yn sôn am dramffordd a threnau reilffyrdd uchel dros y bont[3] Bu farw 3 gweithiwr mewn caisson, yn trio paratoi sail ar gyfer y tŵr agosach at Brooklyn. ym 1903[4]. Rhoddwyd grant o $10,000,000 ym Mai 1904, ar sail y byddai gwaith ar y bont yn dechrau yn ystod 1904.[5] Cwynodd y Comisiwn Celf Dinesig am gynllun y bont ym Mehefin 1904, yn arafu’r proseso adeiladu.[6] Datgelwyd cynllun newydd gan Gomisiwnydd Pontydd Dinas Efor Newydd (Gustav Lindenthal) yn cydeithio gyda Henry Hornbostel.[7] Buasai’r tyrrau i gyd yn cynnwys 4 colofn, cryfhawyd ar letraws a chysylltwyd i’w sail gan golynnau hydredol.[8]. Ardurnasai’r tyrrau gyda manylion Ffrengig Modern, a buasai neuaddau ar gyfer cyfarfodydd tu mewn sail y bont. Gwrthodwyd cynllun Lindenthal hefyd[9] oherwydd dadl dros ddefnyddio ‘eyebars’ yn hytrach na chablenni.[10] Penderfynwyd defnyddio cablenni ym Medi.[11] Diswyddwyd Lindenthal a chomisiynwyd Leon Moisseiff i greu cynllun newydd. Cymerodd George Best le Lindenthal fel comisiwnydd pontydd. Cymerodd Carrère a Hastings le Hornbostel fel cynghorwyr penseiriol.

Adeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladu'r bont, Mawrth 1909

Dechreuwyd gwaith gosod y cablenni rhwng y tyrrau ym Mehefin 1908. Roedd cost y bont wedi codi at $22 miliwn.[12] Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y cablenni i gyd yn eu lle.[13] Rhoddwyd cytundeb y gwaith dur at Gwaith Dur Phoenix, Phoenixville, Pennsylvania.[14][15]

gosodwyd y trawst cyntaf yn Chwefror 1909[16] Erbyn Ebrill, roedd y mwyafrif ohonynt yn eu lle.[17]

Awgrymodd Comisiwn Trafnidiaeth Gyflym Dinas Efrog Newydd adeiladu llinell o’u rheilffyrdd tanddaearol dros y bont ym 1905.[18], a chadarnhawyd eu cynllun ym 1907.[19]. Gofynnodd Comisiwn Gwasanaeth Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd am ganiatád i ddechrau gwaith adeiladu ym Mawrth 1908.[20] a chafwyd caniatád ym Mai.[21]

Agor y bont[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gorymdaith gan 100 o bobl dros y bont ar 5 Rhagfyr 1909.[22] Agorwyd y bont ar 31 Rhagfyr 1909 gan maer Efrog Newydd, George B. McClellan Jr.[23] Achoswyd difrod i’r bont gan dân ym Mawrth 1910.[24]

Mynediad a ffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Crewyd cynllun rhwng 1910 a 1912 gan Carrère a Hastings i adeiladu mynediad i’r bont ar ochr Manhattan, yn rhan o gynllun “City Beautiful” a hefyd un llai ar ochr Brooklyn.[25] Cwblhawyd y gwaith ar ochr Manhattan ym 1915 ac ar ochr Brooklyn yn Nhachwedd 1916.

[26]

Golygfa o Heol Pike at y bont, 1936; llun gan Berenice Abbott

Ychwanegwyd ffordd ar lefel uwch y bont ym 1922. [27]

Gosodwyd llifoleuadau a ffensys ym 1951 yn ystod y Rhyfel Oer.[28]Symudwyd y peilonau ar ben Brooklyn y bont i Amgueddfa Brooklyn ym 1963 er mwyn llydaenu’r ffordd.

Ailadeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Gogwyddodd y bont oherwydd y nifer o trenau’n defnyddio un ochr y bont, ers adeiladu’r rheilffordd ym 1917.[29] Trwsiwyd y bont ym 1956.

Erbyn 1978 roedd angen trwsio Pont Manhattan a phontydd eraill a rhoddwyd arian gan Gynulliad yr Unol Daleithiau.[30] Dechreuodd gwaith ym 1982 a rhoddwyd grant o $50 miliwm ym 1985[31] a dechreuwyd gwaith yn yr un blwyddyn[32]. Rhoddwyd bae â nifer anhafal o drenau’n croesi’r bont, yn ogystal â diffyg gwaith cynnal a chadw yn ystod creisis cyllidol y 1970au.

Roedd gwaith trwsio ar y bont rhwng 1986 a 2001.[33]

21ain Ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Ail-agorwyd llybr ar ochr ddeheuol y bont ar gyfer Cerddwyr a Seiclwyr ym Mehefin 2001.[34]Agorwyd llwybr ar ochr ogleddol yn 2004.[35] Erbyn diwedd yr holl waith trwsio, y cost oedd $800 miliwn. Trwsiodd y ffordd ar y lefel is rhwng 2004 a 2008.[36]

Trefnwyd digwyddiadau i ddathlu canmlyddiant y bont yn Hydref 2009, gan gynnwys gorymdaith a thân gwyllt.[37] Daeth y bont yn gyfarwyddnod peirianyddol cenedlaethol hanesyddol yn 2009 gan Gymdeithas Peirianyddion Sifil America.

Cyhoeddwyd prosiect i newid prif gablen y bont yn 2010 dros cynod o 2 flynedd.[38]Rhoddwyd gytundeb i Skanska i drwsio rhannau’r bont yn 2018, y costio $75.9 miliwn, y gwaith i orffen yn 2021 ac yn cynnwys ffens newydd, trostiau dur newydd a gwaith addurno ar y tyrrau.[39][40][41]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan lefel uwch y bont ffordd ddeuol. Ar y lefel is, mae 3 lôn ddwyffordd, 4 trac, rheilffordd danddaearol. Llwybr i cerddwyr ac un arall i feicwyr. Ar un adeg aeth Ffordd Talaeth Efrog Newydd 27 dros y bont, a bwriadwyd bod Ffordd I-478 yn croesi hefyd.[42] Mae’r bont yn 1480 troedfedd o hyd rhwng y tyrrau a 160 troedfedd o led.[43] Yn cynnwys y rampiau’n arwain at y bont, mae’n 6375 troedfedd o hyd ac mae 134 troedfedd rhwng afon a phont ar benllanw.[44] Mae 4 cablen yn dod o’r tyrrau ac yn dal meini’r bont mewn ardaloedd 225 troedfedd o hyd a 175 troedfedd o led, yn lletach na’r bont yn gyffredinol, yn creu gofod lle gall cerddwyr yn aros am sbel.[45] Cynllunwyd Carrère a Hastings sgwâriau ar ddwy ben y bont.[46]

Arch a cholonâd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cwblhawyd gwaith ar ben Manhattan y bont ym 1915. Mae plasa hirgrwn yn wynebu’r Bowery. Roedd yr arch yn seiliedig ar ‘Porte Saint-Denis ym Mharis, a’r colonâd a plasa ar Sgwâr Sant Pedr yn ninas y Fatican. Roedd creu ardaloedd agored o gwmpas cyffyrdd mawrion yn un o nodweddion y Cynllun Gwella Efrog Newydd, 1907. Roedd cynllun i greu plasa crwn rhwng y pontydd Brooklyn a Manhattan, ond nad aleiladwyd y fath plasa.

Traciau rheilffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae 4 ohonynt ar lefel is y bont, gyda’r ffordd rhwngddynt. Mae gwasanaethau N a Q y rheilffordd danddaearol yn defnyddio’r traciau deheuol. Mae gwasanaethau B a D yn defnyddio’r traciau gogleddol.

Hanes y rheilffyrdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Trên D ar y traciau gogleddol

Pan agorwyd y bont, nad oedd cysylltiad i weddill y rhwydwaith; daeth trenau’r Manhattan Bridge Three Cent Line ar draws y bont o 1910 ymlaen[47] Wedyn, ym 1912, daeth y Brooklyn and North River Line.[48]

Gosodwyd cysylltiad gyda Brooklyn Rapid Transit ym 1915.[49] Symudwyd y gwasanaeth dros y bont yn unig i’r lefel uwch hyd at 1929, pan gorffenodd y wasanaeth.[50] Agorwyd traciau tanddaearol dros y bont ar 22 Mehefin 1915 pan agorwyd y llinell 4th Avenue a llinell Sea Beach i Ynys Coney a Gorsaf reilffordd Stilwell Avenue.[51]

Mae’r cledrau ar y 2 ochr o’r bont, felly gwnaeth trenau’n acosi symudiad i’r bont, yn mwyhau efo trenau hirach a thrymach, a buasai un ochr y bont tua 3 troedfedd yn is na’r llall pan aeth trên drosodd, yn difrodi’r bont. Dechreuodd trwsiad ym 1956, yn costio $30 miliwn o ddoleri.[52] Ail-drefnwyd gwasanaethau yn ystod y cyfnod trwsio.[53]

Dechreuodd ymgyrch trwsio arall yn y 1980au, ac aeth llai o drenau dros y bont fel canlyniad[54] Caewyd y traciau gogleddol yn gyntaf, yn Ebrill 1986. Pan ail-agorodd y traciau gogleddol, caewyd y rhai deheuol, yn Rhagfyr 1988. Roedd pwys o Awdurdod Transit y Ddinas, ac o wleidyddion i ail-ddechrau gwasanaethau ar ochr deheuol y bont, er dywedodd y peiriannwyr bod y bont ddim yn ddiogel.[55][56] Ar ôl 27 Rhagfyr, anfonwyd gwasanaethau ar ochr ddeheuol y bont trwy dwnnel oherwydd difrod ar y bont, ac roedd ymholiad ynglŷn â’r penderfyniad i anfon trenau dros y bont, ac am ddiogelwchpontydd Efrog Newydd i gyd.[57][58][59] Awgrymwyd dyddiad ail-agor ym 1995.[60] Caewyd yr ochr ogleddol tu hwnt i’r oriau prysuraf dros cyfnod o 6 mis. Ail-agorwyd yr ochr ddeheuol ar 22 Gorffennaf 2001 a chaewyd yr ochr ogleddol yn syth. Caewyd yr ochr ddeheuol rhwng Ebrill a Thachwedd 2003.[61] Ail-agorwyd yr ochr ogleddol ar 22 Chwefror 2004, a defnyddiwyd y traciau i gyd am y tro cyntaf ers 18 mlynedd.[62][63][64]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Erthygl ‘Pont hyfryd yn ogystal â defnyddiol’:Cylchgrawn Penseiriau ac Adeiladwyr, Medi 1904
  2. Erthygl ‘Pont hyfryd yn ogystal â defnyddiol’:Cylchgrawn Penseiriau ac Adeiladwyr, Medi 1904
  3. ’Plans for Third Bridge’, New York Times, 4 Chwefror 1903
  4. New York Times, 22 Chwefror 1903
  5. Times Machine New York Times
  6. New York Times, 25 Mehefin
  7. Manhattan Bridge Plans – Lindenthal Design Promises Structure of Lasting Credit to City (llythyr), New York Times, 30 Mehefin 1904
  8. :Cylchgrawn Penseiriau ac Adeiladwyr, 1904
  9. Gwefan y New York Times, 14 Gorffennaf July 14, 1904
  10. Gwefan y New York Times, 14 Gorffennaf 1904
  11. Gwefan y New York Times , 16 Medi
  12. https://timesmachine.nytimes.com/timesmachine/1908/06/16/104732729.pdf New York Times, 16 Mehefin 1908]
  13. New York Times, 11 Rhagfyr 1908|work
  14. ’Without fitting, filing, or chipping: an illustrated history of the Phoenix Bridge Company’ gan Thomas R Winpenny, cyhoeddwyr Gwasg Canal History and Technology, Easton, Pennsylvania:isbn=0-930973-15-1, tud 82–83
  15. [https://books.google.com/books?id=5yXSCgAAQBAJ&q=manhattan+bridge+phoenix&pg=PA10 ‘Inspection, evaluation and maintenance of suspension bridges: case studies’ gan Bojidar Yanve; cyhoeddwyr Gwasg CRC Boca Raton, Florida, isbn=978-1-4665-9689-4, tud 10
  16. [https://timesmachine.nytimes.com/timesmachine/1909/02/25/101867607.pdf gwefan New York Times]
  17. Gwefan New York Times
  18. Gwefan New York Times
  19. Gwefan New York Times
  20. Gwefan New York Times
  21. Gwefan New York Times
  22. Gwefan y New York Times; ‘One Hundred Cross Manhattan Bridge – Brooklyn Inspection Party Walks Over the New Twenty-Million-Dollar Link – A Remarkable Structure – Official Opening Set for Three Weeks Hence – Interesting Facts About Its Building’ 5 Rhagfyr 1909
  23. Gwefan y New York Times, 1 Ionawr 1910:’Manhattan Bridge Opened to Traffic – Mayor McClellan's Last Act in Public Was to Lead a Procession on Wheels Across – Brooklyn Men Celebrate – New Structure Has the Largest Carrying Capacity of Any Crossing the River – The Span Is 1,470 Feet
  24. Gwefan y New York Times, 26 Mawrth 1910:’Fire Weakens New Manhattan Bridge – Steel Work and Cables, Warped and Twisted, May Have to Be Replaced – Damage $50,000
  25. Gwefan New York Times
  26. Gwefan New York Times
  27. Gwefan New York Times:’New Roadway Opened on Manhattan Bridge – Mayor and Other City Officials Attend Event—Only Passenger Cars Allowed’|dyddiad Mehefin 16, 1922
  28. War Barricades Set Up on Bridges – Floodlights Are Also Being Installed There to Thwart Possible Sabotage – Barbed Wire for Cables – Chief Attention Given Vital Manhattan-Brooklyn Spans, Close to Naval Ship Yard, gan William C. Eckenberg, New York Times, 11 Ebrill 1951
  29. New York Times: Bridge Troubles Are Linked To a Lack of Coordination, gan Calvin Sims,1 Mawrth 1 1991
  30. Gwefan y New York Times
  31. Gwefan y New York Times
  32. Gwefan y New York Times
  33. Gwefan Y New York Times
  34. Gwefan Y New York Times,26 Mehefin 2001:’Cyclists and Walkers Regain a Bridge’
  35. Gwefan gothamist.com
  36. Gwefan Skanska
  37. Gwefan nycbridges100.org
  38. Gwefan Brooklyn Paper
  39. Gwefan 6sqft
  40. Gwefan www.theconstructionindex.co.uk
  41. Gwefan Untapped New York
  42. Gwefan www1.nyc.gov
  43. ‘Great American Bridges and Dams’ gan Donald C Jackson; cyhoeddwr Wiley, 1988; tudalen 136: isbn=0-471-14385-5
  44. Siart Arolwg Gwasanaeth Genedlaethol y Cyfanfor, 1 Hydref 2019; Cyhoeddwyr y Weinidogaeth Genedlaethol Gefnforol ac Atmosfferig
  45. Cylchgrawn Penseiriau ac Adeiladwyr, 1904; tudalen 550
  46. Comisiwn Cadwraeth Arwyddnodau, 1975 tudalen 1
  47. Gwefan y New York Times, 4 Mawrth 1910
  48. Gwefan y New York Times, 3 Ebrill 1912
  49. Gwefan New York Times,10 Mehefin 1915
  50. Gwefan New York Times, 14 Tachwedd, 1929
  51. Y Brooklyn Daily Eagle, 22 Mehefin 2015
  52. "First Aid For An Ailing Bridge." Popular Mechanics, February 1956, pp. 126–130.
  53. Gwefan www.nycsubway.org
  54. https://www.nytimes.com/1983/08/04/nyregion/brooklyn-trains-will-be-delayed-in-bridge-repair.htm Gwefan New York Times, 4 Awst 1983]
  55. Gwefan New York Times, 26 Rhagfyr 1990
  56. Gwefan New York Times, 8 Ionawr 1991
  57. Gwefan y New York Times, 11 Ionawr 1991
  58. Gwefan y New York Times,12 Ionawr 1991
  59. Gwefan y New York Times, 14 Ionawr, 1991
  60. Gwefan y New York Times, 17 Mai 1992
  61. Gwefan y New York Times
  62. Four-track Service Returns To Manhattan Bridge
  63. Gwefan thejoekorner.com
  64. Gwefan mta.info

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]