Neidio i'r cynnwys

Pont Llangynidr

Oddi ar Wicipedia
Pont Llangynidr
Mathpont ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlangynidr Edit this on Wikidata
SirLlanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr92 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.87°N 3.23°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pont garreg sy'n croesi Afon Wysg ym Mhowys, Cymru, yw Pont Llangynidr. Saif yn union i'r gogledd o ardal Coed-yr-ynys ym mhentref Llangynidr, ac fe'i hadnabyddir hefyd fel Pont Coed-yr-ynys. Mae'n cludo ffordd y B4560 i gyfeiriad pentref Bwlch.

Mae'n 230 troedfedd (69 m) o hyd. Mae'r ffordd dros y bont yn gul iawn, dim ond 8 troedfedd (2.5 m) o led, ac mae cyfyngiadau ar led a phwysau cerbydau.[1][2] Mae gan y bont chwe bwa carreg. Fel Pont Crucywel gerllaw mae ganddi dorddyfroedd (Saesneg: cutwaters) trionglog wrth y pierau; mae'r rhain yn cael eu hymestyn i lefel y ffordd i ddarparu llochesau i gerddwyr er mwyn osgoi traffig olwynion. Mae'r bont yn arbennig o drawiadol oherwydd ei lleoliad ar yr afon a'i huchder sylweddol drosti, ac roedd yn hoff bwnc gan arlunwyr tirluniau.

Mae'r bont bresennol yn dyddio o tua 1700, a chredir mai hi yw'r bont hynaf ar Afon Wysg. Cyn hynny roedd bont tua 500 m ymhellach i'r gorllewin.

Gwyddys i Bont Llangynidr gael ei hatgyweirio yn 1707, ac eto yn 1822. Ym 1794 sefydlwyd giât dyrpeg ar ochr Bwlch i'r afon, ac arwerthwyd yr hawl i gasglu'r tollau ym 1800. Mae'r bwthyn tyrpeg yn dal i sefyll. Gwnaethpwyd atgyweiriadau pellach yn 2015–16.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Llangynidr Bridge", Coflein; adalwyd 13 Chwefror 2025
  2. "Llangynidr Bridge, Nr. Crickhowell", National Transport Trust; adalwyd 13 Chwefror 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]