Pont Rhedynfre

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pont Farndon)
Neidio i: llywio, chwilio

53°05′00″N 2°52′47″W / 53.083373°N 2.879820°W / 53.083373; -2.879820

Un o bontydd y Ddyfrdwy rhwng Holt, Cymru a Farndon, Lloegr.
Pont Farndon
Pont Rhedynfre
Pont Rhedynfre

Mae Pont Rhedynfre (Saesneg: Farndon Bridge) yn strwythur Gradd 1 sy'n croesi Afon Dyfrdwy ac sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r ochr sydd yng Nghymru ym mhentref Holt a'r ochr yn Lloegr ym mhentref Rhedynfre, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ412544). Cofrestrwyd y bont yn Radd 1 ar 1 Mawrth 1967 yn y National Heritage List for England (Rhif Cofrestru: 1279428) ac mae hefyd yn 'Heneb Rhestredig (Ancient Monument).[1] Daeth y tollborth yma i ben yn 1866. Yn ôl traddodiad bu yma frwydr waedlyd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Gwnaed gwaith cynnal a chadw sylweddol yn y 1990au cynnar ac ar yr un pryd cafwyd archwiliad archaeolegol.[2]

Codi'r bont[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd y bont yn 1345[3] gan fynachod Abaty Sant Werburgh, Caer. Yn wreiddiol roedd gan y bont ddeg bwa, gyda thŵr amddiffynol ar y pumed, ond cafodd ei ddymchwel yn 1770 a chollwyd dau fwa ar ochr Cymru o'r bont.[4] Mae pump o'r bwau yn y dŵr. Fe'i gwnaed o garreg calchfaen, coch, gyda dim ond lle i un cerbyd ar y tro a cheir system oleuadau traffig i reoli llif y cerbydau.

Tywysogion Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad, boddwyd dau Dywysog Cymreig yn yr afon, meibion Madog ap Gruffudd, a chred rhai fod eu hysbrydion yn dal yno a'u sgrechfeydd i'w clywed heddiw.[5]

Ar farwolaeth Madog, dywedir i'w fechgyn gael eu rhoi yng ngofal John, iarll Warren a Roger Mortimer; cynlluniodd y ddau i ladd y plant er mwyn etifeddu eu cyfoeth. Ar eu taith o Gaer i Langollen honir i'r ddau oedolyn daflu'r bechgyn i'r dŵr a hithau'n aeaf rhewllyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. historicengland.org.uk; adalwyd 4 Mai 2017.
  2. Royden, Mike, "Farndon-Holt Bridge", Farndon Local History (Mike Royden), http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/bridge.htm, adalwyd 29 Mawrth 2008
  3. historicengland.org.uk; adalwyd 4 Mai 2017.
  4. Ward, S. S, "A Survey of Holt-Farndon Medieval Bridge", Cheshire Past (Chester Archaeological Service): pp. 14–15, http://www.roydenhistory.co.uk/farndon/buildings/bridge/cheshirepast1.jpg, adalwyd 29 Mawrth 2008
  5. Holland, Richard (30 Gorffennaf 2009). "BBC - North East Wales - Wrexham's Bridge of Screams". BBC. http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8176000/8176472.stm. Adalwyd 4 Mai 2017.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: