Neidio i'r cynnwys

Pont Crucywel

Oddi ar Wicipedia
Pont Crucywel
Mathpont Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCrucywel Edit this on Wikidata
SirLlangatwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr63.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.86°N 3.14°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR005 Edit this on Wikidata

Pont garreg sy'n croesi Afon Wysg ym Mhowys, Cymru, yw Pont Crucywel. Saif yn union i'r de o dref Crucywel. Mae'n ymuno â chymunedau Crucywel a Llangatwg ac yn cludo ffordd yr A4077 i gyfeiriad pentref Gilwern.

Mae'n 420 troedfedd (128 m) o hyd, y bont garreg hiraf yng Nghymru.[1] Mae'n anarferol gan fod ganddi 12 bwa i fyny'r afon ond 13 bwa i lawr yr afon. Fel Pont Llangynidr gerllaw mae ganddi dorddyfroedd (Saesneg: cutwaters) trionglog wrth y pierau.

Cofnodwyd pont yma am y tro cyntaf yn 1538. Cafodd ei hailadeiladu yn 1706 a'i lledu ym 1810 gan y peirianydd Benjamin James, Llangatwg. Newidiwyd y pen gogledd-ddwyreiniol ym 1828-30, gan greu'r anghyfartalwch yn nifer y bwâu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Crickhowell Bridge", Coflein; adalwyd 14 Chwefror 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]