Neidio i'r cynnwys

Pokémon Detective Pikachu (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Pokémon Detective Pikachu
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America, Japan Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 Mai 2019, 9 Mai 2019, 10 Mai 2019, 3 Mai 2019 Edit this on Wikidata
Genreffilm hybrid (byw ac animeiddiad), ffilm am ddirgelwch, ffilm ffantasi, ffilm antur, ffilm wyddonias, ffilm llawn cyffro, ffilm am arddegwyr, ffilm deuluol, ffilm drosedd, ffilm dditectif, ffilm gomedi, ffilm gomedi acsiwn, ffantasi trefol Edit this on Wikidata
CyfresPokémon Edit this on Wikidata
Hyd104 munud Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrRob Letterman Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMary Parent Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuLegendary Pictures, The Pokémon Company Edit this on Wikidata
CyfansoddwrHenry Jackman Edit this on Wikidata
DosbarthyddWarner Bros. Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddJohn Mathieson Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.warnerbros.com/movies/pokemon-detective-pikachu Edit this on Wikidata
SgriptiwrDan Hernandez, Benji Samit Edit this on Wikidata
cost449,762,638 $ (UDA), 144,174,568 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffilm ddirgelwch ffantasi yw Pokémon Detective Pikachu (2019). Cafodd ei chyfarwyddo gan Rob Letterman, a cyd-ysgrifennwyd y sgript gan Dan Hernandez, Benji Samit a Derek Connolly yn seiliedig ar stori gan Hernandez, Samit a Nicole Perlman. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri a'r gêm fideo Detective Pikachu (2016).[1] Cafodd ei chynhyrchu gan Warner Bros. Pictures, Legendary Pictures a The Pokémon Company, mewn cydweithrediad â Toho Co, Ltd. Dyma'r addasiad cyffro byw cyntaf yn y fasnachfraint.[2] Mae Ryan Reynolds yn serennu yn y ffilm fel llais a mudiant wyneb Pikachu, gyda Justice Smith, Kathryn Newton, Suki Waterhouse, Omar Chaparro, Chris Geere, Ken Watanabe a Bill Nighy hefyd yn actio ynddi fel cymeriadau byw.

Cynhaliwyd y ffilmio ar gyfer Pokémon Detective Pikachu rhwng Ionawr a Mai 2018 yn Colorado, Lloegr a'r Alban. Fe'i rhyddhawyd yn Japan ar 3 Mai 2019,[3][4] ac yn yr Unol Daleithiau ar 10 Mai, 2019, wedi'i dosbarthu gan Warner Bros. Pictures mewn RealD 3D a Dolby Cinema.[5] Dyma'r ffilm Pokémon gyntaf i'w dosbarthu yn theatrig yn yr Unol Daleithiau gan Warner Bros. ers Pokémon 3: The Movie (2000), a gyda thystysgrif PG gan yr MPAA, dyma'r ffilm Pokémon gyntaf i gael eu rhyddhau yn yr Unol Daleithiau i dderbyn gradd G gan y grŵp.[6] Derbyniodd y Ditectif Pikachu adolygiadau cymysg gan feirniaid, gyda chanmoliaeth i ddyluniadau'r creaduriaid a pherfformiad Reynolds, ond beirniadaeth o'r plot fel un di-fflach.[7][8] Ystyrir mai hwn yw'r addasiad ffilm cyffro byw gorau o gêm fideo, yn seiliedig ar adolygiadau a gasglwyd ar Rotten Tomato. Cafodd y ffilm ymateb cadarnhaol hefyd gan gynulleidfaoedd a holwyd gan CinemaScore a PostTrak.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Orange, Alan (26 Chwefror 2019). "Detective Pikachu Trailer #2 Reveals Mewtwo and More Iconic Pokemon". MovieWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2019.
  2. Sharf, Zack (26 Chwefror 2019). "'Detective Pikachu' Official Trailer: Ryan Reynolds Brings Pokémon Mayhem". IndieWire. Cyrchwyd 1 Mawrth 2019.
  3. Famitsu. 20 Mawrth 2019 https://www.famitsu.com/news/201903/20173501.html. Cyrchwyd 20 Mawrth 2019. Missing or empty |title= (help)
  4. 4Gamer.net. 20 Mawrth 2019 https://www.4gamer.net/games/420/G042085/20190320022/. Cyrchwyd 20 Mawrth 2019. Missing or empty |title= (help)
  5. Kit, Borys (11 Rhagfyr 2017). "Ryan Reynolds' 'Detective Pikachu' Gets 2019 Release Date". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 25 Ionawr 2018.
  6. Peters, Megan. "'Detective Pikachu' Gets Official PG Rating". Comicbook.com. Cyrchwyd 7 Mawrth 2019.
  7. Lexy Perez; Lauren Huff (2 Mai 2019). "'Pokémon Detective Pikachu': What the Critics Are Saying". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
  8. Josh Weiss (3 Mai 2019). "Critics call Detective Pikachu a 'bonkers roller coaster ride' in first reviews". Syfy. Cyrchwyd 5 Mai 2019.