Pluen-fwsogl cypreswydd
Gwedd
| Pluen-fwsogl cypreswydd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Bryophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Hypnales |
| Teulu: | Hypnaceae |
| Genws: | Hypnum |
| Rhywogaeth: | H. cupressiforme |
| Enw deuenwol | |
| Hypnum cupressiforme Hedw. | |
Mwsogl bach sy'n gyffredin ledled y byd yw'r pluen-fwsogl cypreswydd (Hypnum cupressiforme). Mae'n tyfu ar risgl, creigiau a muriau. Fe'i defnyddiwyd i lenwi matresi a chlustogau yn y gorffennol.
Mae ganddo goesau canghennog sy'n ymlusgo dros yr arwyneb, yn ffurfio matiau trwchus. Mae ei ddail yn gorgyffwrdd ei gilydd ac maent yn debyg i ddail cypreswydden.