Neidio i'r cynnwys

Plas Mawr

Oddi ar Wicipedia
Plas Mawr
Enghraifft o:tŷ tref,  Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1576 Edit this on Wikidata
LleoliadConwy Edit this on Wikidata
PerchennogCadw Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrCadw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthConwy Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cadw.gov.wales/visit/places-to-visit/plas-mawr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tŷ tref yn nhref Conwy sy'n dyddio o'r 16g ac Oes Elisabeth yw Plas Mawr.

Adeiladwyd y tŷ ar lain o dir ger y Stryd Fawr gan Robert Wynn, bonheddwr o'r ardal ar ôl iddo briodi ei wraig gyntaf, Dorothy Griffith. Fe'i codwyd mewn tair cyfnod rhwng 1576 a 1585 am gost o tua £800. Gosododd Wynn gyfarwyddiadau cymhleth ar gyfer rhannu ei ystâd ar ôl ei farwolaeth; dim ond ar ôl blynyddoedd lawer y datryswyd y problemau cyfreithiol a ddeilliodd o'r amodau hynny, gan atal y tŷ rhag cael ei ailddatblygu mewn arddull fwy modern. Oherwydd y ddamwain hon arhosodd y tŷ yn ei gyflwr gwreiddiol i bob diben.

Ar ôl 1683, aeth Plas Mawr i feddiant teulu Mostyn a pheidiodd â chael ei ddefnyddio fel cartref teuluol. Cafodd ei rentu at wahanol ddibenion yn ystod y 18g a'r 19g, gan gynnwys i'w ddefnyddio fel ysgol, llety rhad ac ar ôl 1887 fel pencadlys Yr Academi Frenhinol Gymreig.[1]

Mabwysiadodd Cadw reolaeth yr eiddo yn 1993 a gwnaeth adferiadau helaeth iddo. Yn ôl Cadw: "Yn anad dim, Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd ceinaf sydd wedi goroesi yn unrhyw le ym Mhrydain."[2] Mae'r tŷ ar agor i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Myfanwy Kitchin, "Hanes byr yr Academi Frenhinol Gymreig", Academi Frenhinol Gymreig; adalwyd 11 Mai 2025
  2. "Ymweld â Plas Mawr", Cadw; adalwyd 11 Mai 2025

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Turner, Rick C. , "Robert Wynn and the Building of Plas Mawr, Conwy", National Library of Wales Journal 29(2) (1995):177–209
  • Turner, Rick C. , Plas Mawr, Conwy, 2il arg. (Caerdydd: Cadw, 2008)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]