Plas Hafodunos
![]() | |
Math | plasty gwledig ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Hafodunos ![]() |
Lleoliad | Llangernyw ![]() |
Sir | Llangernyw ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 193.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1883°N 3.69633°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Perchnogaeth | Henry Robertson Sandbach, Samuel Sandbach ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Plasty yn Llangernyw, Bwrdeisdref Sirol Conwy, yw Plas Hafodunos (neu Neuadd Hafodunos). Fe'i codwyd rhwng 1861 ac 1866. Cafodd ei gynllunio gan y pensaer Syr George Gilbert Scott (1811-1878) ar gost o tua £30,000 - a hynny ar gyfer Henry R. Sandbach. Roedd Henry yn fab i Samuel Sandbach, masnachwr a pherchennog llongau o Lerpwl a brynodd y safle yn 1831, ble roedd hen plasty a oedd yn dyddio o hanner cyntaf yr 17g.
Adeiladwyd y plasty mewn arddull Gothig-Fenesaidd, gan ddefnyddio brics coch a thoeau llechi. Ystyrir Hafodunos yn un o'r enghreifftiau gorau o blastai'r pensaer, yn ail yn unig i Neuadd Kelham, Swydd Nottingham; yr unig dŷ iddo ei gynllunio yng Nghymru. Y tu fewn roedd rhai nodweddion cwbwl nodweddiadol o arddull Scott: drysau dull Pugin, nenfydau asennog, a simneiau marmor a charreg. Roedd yma gerfluniau nodedig gan gynnwys eitemau gan John Gibson (1790-1866).
Yn y gerddi ceid sawl enghraifft o blanhigion tramor, prin a blannwyd yno gan y botanegydd a'r garddwriaethydd Syr William Hooker neu ei fab y botanegydd enwog J. D. Hooker.
Yn ddiweddar, bu Hafodunos yn ysgol breswyl i ferched, yn goleg cyfrifo ac yn gartref gofal. Dinistriwyd yr adeilad gan dân ym mis Hydref 2004. Mae cynlluniau ar y gweill i'w hadfer; mae'r datblygwyr SFJ Cyf, o Fae Colwyn wedi cyflwyno cais i Gyngor Conwy am ganiatâd cynllunio i droi'r tŷ rhestredig Gradd 1 yn westy.

