Neidio i'r cynnwys

Plant y strydoedd

Oddi ar Wicipedia
Bachgen stryd yn Kabul, Affganistan, yn 2003.

Plant digartref sy'n byw ar strydoedd y ddinas yw plant y strydoedd. Maen nhw'n aml yn amddifad.

Yn ôl UNESCO mae tua 150 miliwn o blant y strydoedd yn y byd heddiw. Ymhlith achosion eu sefyllfa mae trais yn y cartref, camdrin alcohol a chyffuriau, marwolaeth rhieni, chwalu'r teulu, rhyfel, trychineb naturiol, ac argyfwng economaidd-gymdeithasol. Er mwyn goroesi ar y strydoedd maent yn chwilota, yn cardota, ac yn pedlera.[1]

Hen air am blentyn y stryd yw "Arab"[2] neu "Arabiad".[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ (Saesneg) Street children. UNESCO. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2. ↑  Arab. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  3. ↑  Arabiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.