Planhigyn Arctig-Alpaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Planhigyn arctig-alpaidd)
Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).

Planhigyn Arctig-Alpaidd yw'r term a ddefnyddir am rywogaethau sy'n perthyn i grŵp sydd a lledaeniad nodweddiadol, sef yr Arctig a mynyddoedd mewn ardaloedd mwy deheuol, er enghraifft yr Alpau.

Ceir y math yma o ledaeniad oherwydd bod yr amgylchedd ar y mynyddoedd uchaf yn debyg i'r amgylchedd yn yr Arctig. Y farn gyffredinol yw fod y planhigion yma ar un adeg wedi byw dros ardaloedd ehangach ar adegau pan oedd yr hinsawdd yn oerach, er enghraifft yn ystod Oes yr Iâ.

Yng Nghymru, ceir nifer o blanhigion Arctig-Alpaidd, yn arbennig yn Eryri. Yr enwocaf ohonynt yw Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).

Enghreifftiau o blanhigion Arctig-Alpaidd yw:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]