Pittsburgh Pirates

Oddi ar Wicipedia
Cerflun o 'Honus' Wagner, cyn-chwareuwr y Pirates
Stadiwm 3 Afon

Mae Pittsburgh Pirates yn dîm Pêl fas yn Pittsburgh, Pennsylvania, yn cystadlu ym Major League Baseball (MLB), yn Adran Ganolog y Gynghrair Genedlaethol. Sefydlwyd y clwb ym 1881 gyda’r enw Pittsburgh Allegheny, ac maen nhw wedi ennill Cyfres y Byd ar 5 achlysur.

Cartref y clwb rhwng 1909 a 1970 oedd Forbes Field, wedyn symud i Stadiwm 3 Afon (yn cyfeirio at Afon Ohio, Afon Allegheny ac Afon Monongahela) hyd at 2001, cyn symud i Barc PNC.


Dolen allanol[golygu | golygu cod]