Pinyp
| Enghraifft o: | galwedigaeth, galwedigaeth |
|---|---|
| Math | model, eilun Japaneaidd, model hanner noeth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01p5_g |
Cynrychiolaeth o fenyw wedi'i lluniadu neu ei ffotograffio, mewn ystum deniadol neu rhywiol, yw pinyp.[1] Defnyddiwyd y gair Saesneg pin-up gyntaf yn 1941. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd byddai Americanwyr a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn addurno eu lletyau â phosteri o ferched ifanc deniadol. Bydden nhw'n gosod y posteri ar waliau a loceri â phinnau (felly "pin up"). Fel arfer, roedd y delweddau'n dangos merched llawen, gwenu, mewn gwisg denau. Yn aml roedd delweddau o'r math hwn yn cael eu peintio ar ochrau awyrennau fel symbolau o lwc dda. Yn y cyfnod modern, estynnwyd y ffasiwn ar gyfer pinups i ddynion, yn bennaf modelau gwrywaidd a sêr pop.[2]
Roedd nifer o artistiaid yn arbenigo mewn creu delweddau o'r math hwn, a'r mwyaf adnabyddus ohonynt oedd Alberto Vargas.
Parhaodd yr arddull gelf i fod yn boblogaidd trwy gydol y 1950au, ond cafodd ei ddisodli i raddau helaeth o'r 1960au ymlaen gan ddelweddau mwy rhywiol, fel y rhai yng nghylchgrawn Playboy.
Yn fwy diweddar, defnyddiwyd yr enw "pinyp" i nodi unigolion, benywaidd a gwrywaidd, sy'n cael eu hystyried yn ddeniadol yn gorfforol.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Yr actores ffilmiau Betty Grable mewn ystum nodweddiadol (1943)
-
Pinyp o Ann Miller yn Yank, The Army Weekly (1943)
-
Merch pinyp wedi'i phaentio ar ochr awyren Lockheed P-38 Lightning
-
Ryan Gosling, pinyp gwrywaidd (2018)
-
Harry Styles (2023)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Dian Hanson, The Art of Pin-up (Cwlen: Taschen, 2014)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ pinyp. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Medi 2025.
- ↑ Kenneth MacKinnon (2002). Love, Tears, and the Male Spectator (yn Saesneg). Fairleigh Dickinson University Press. t. 109. ISBN 9780838639559.