Pibydd aber

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pibydd aber
Calidris canutus
Calidris canutus (summer).jpg
Red knot Delaware.jpg
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris[*]
Rhywogaeth: Calidris canutus
Enw deuenwol
Calidris canutus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd aber (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion aber) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris canutus; yr enw Saesneg arno yw Red knot. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. canutus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae Pibydd yr Aber yn nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a gogledd Canada. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop ac Asia yn symud cyn belled ag Affrica ac Awstralia a'r adar sy'n nythu yng Ngogledd America yn symud cyn belled a'r Ariannin. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy 3-4 wy.

Pibyddion yr Aber yn y gaeaf
Calidris canutus

Mae'n aderyn canolig o ran maint, 23–26 cm o hyd a 47–53 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol gyda lliw cochaidd ar y pen a'r fron a bol ychydig yn oleuach. Yn y gaeaf mae'n llwyd, tywyllach ar y cefn a goleuach ar y bol.

Yn y gaeaf mae'n bwydo o gwmpas glannau'r môr lle mae mwd ar gael, ac maent yn bwydo ar unrhyw greaduriaid bychain y gallant eu darganfod yn y mwd. Maent yn hel at ei gilydd yn heidiau mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae Pibydd yr Aber yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru yn y gaeaf ond nid ymddengys fod cofnod iddo erioed nythu yma.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r pibydd aber yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Melyngoes bach Tringa flavipes
Lesser Yellowlegs.jpg
Pibydd aber Calidris canutus
Calidris canutus (summer).jpg
Pibydd Bach Calidris minuta
Little Stint (Calidris minuta) (1).jpg
Pibydd Baird Calidris bairdii
Calidris bairdii -Gullbringusysla, Iceland-8.jpg
Pibydd cain Calidris melanotos
Pectoral-Sandpiper017.jpg
Pibydd cambig Calidris ferruginea
Calidris ferruginea, winter adult, Pak Thale.jpg
Pibydd Coesgoch Tringa totanus
Common Redshank Tringa totanus.jpg
Pibydd Coeswerdd Tringa nebularia
Tringa nebularia - Laem Phak Bia.jpg
Pibydd craig Calidris ptilocnemis
Calidris ptilocnemis1.jpg
Pibydd cynffonfain Calidris acuminata
Calidris acuminata - Hexham Swamp.jpg
Pibydd du Calidris maritima
Calidris maritima.jpg
Pibydd gyddfgoch Calidris ruficollis
Calidris ruficollis - Marion Bay.jpg
Pibydd llwyd Calidris pusilla
Calidris-pusilla-001.jpg
Pibydd mawr yr aber Calidris tenuirostris
Calidris tenuirostris - Laem Phak Bia.jpg
Pibydd Temminck Calidris temminckii
Temmincks Stint.jpg
Pibydd tinwyn Calidris fuscicollis
White-rumped Sandpiper.jpg
Pibydd y Gorllewin Calidris mauri
Western Sandpiper.jpg
Pibydd y Graean Tringa glareola
Wood Sandpiper.jpg
Pibydd y Mawn Calidris alpina
Calidris alpina alpina, Riga, Latvia 1.jpg
Pibydd y Tywod Calidris alba
Calidris alba - Laem Phak Bia.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: