Petrus Plancius
| Petrus Plancius | |
|---|---|
| Ganwyd | 1552, 1522 Dranouter |
| Bu farw | 15 Mai 1622 Amsterdam |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
| Galwedigaeth | seryddwr, mapiwr, diwinydd, clerig, gwneuthurwr offerynnau, daearyddwr, cynllunydd, cyhoeddwr, engrafwr |
| Cyflogwr | |
| Plant | Jeremias Plancius, Daniel Plancius |
| Gwefan | https://de.wikisource.org/wiki/ADB:Plancius,_Peter, https://nl.wikipedia.org/wiki/Petrus_Plancius |
Seryddwr, cartograffydd a chlerigwr o Fflandrys oedd Petrus Plancius (ganwyd Pieter Platevoet; 1552 – 15 Mai 1622). Fe'i ganwyd yn Dranouter (bellach yng Ngwlad Belg), ac astudiodd ddiwinyddiaeth yn yr Almaen a Lloegr. Yn 24 oed daeth yn weinidog yn Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd.
Gadawodd Plancius Frwsel i osgoi erledigaeth grefyddol gan y Chwilys ar ôl i'r ddinas gael ei meddiannu gan Sbaen yn 1585. Aeth i Amsterdam, lle y dechreuodd ymddiddori mewn mordwyo a chartograffeg. Cafodd ei gydnabod yn fuan fel arbenigwr ar môr-lwybrau i India ac Indonesia. Roedd yn fuddsoddwr yn y Vereenigde Oost-Indische Compagnie (Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain), a thynnodd dros 100 o fapiau ar ei gyfer.
Ym 1595 hyfforddodd Plancius y morlywiwr Pieter Dirkszoon Keyser i wneud arsylwadau seryddol o hemisffer wybrennol y de yn ystod yr alldaith gyntaf i India'r Dwyrain gan longau o'r Iseldiroedd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd Plancius y catalog o 135 o sêr a luniwyd gan Keyser a'i gydweithiwr Frederick de Houtman. Rhannwyd y sêr yn 12 cytser newydd (Apus, Chamaeleon, Dorado, Grus, Hydrus, Indus, Musca, Pavo, Phoenix, Triangulum Australe, Tucana a Volans) ar glôb wybrennol o 1598 a ddyluniwyd gan Plancius a'r cartograffydd Jodocus Hondius.[1] Mae'r cytserau hyn ymlhlith y 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922. Ar glôb diweddarach o 1612 cyflwynodd Plancius wyth cytser ychwanegol, o'r rhain, dim ond dau (Camelopardalis a Monoceros) a fabwysiadwyd gan yr Undeb Seryddol.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Scouting the southern sky", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 31 Mawrth 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Glôb wybrennol gan Plancius], Science Museum Group