Petronius
Petronius | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | arbiter elegantiae ![]() |
Ganwyd | Publius Petronius Niger ![]() c. 27 ![]() Massilia ![]() |
Bu farw | 66 ![]() o gwaediad ![]() Cumae ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, person milwrol, bardd, athronydd ![]() |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig ![]() |
Adnabyddus am | Satyricon ![]() |
Tad | Publius Petronius ![]() |
Mam | Plautia ![]() |
Seneddwr Rhufeinig oedd Titus Petronius Arbiter (tua 27 OC – 66 OC), a adnabyddir hefyd dan yr enwau Gaius Petronius, Gaius Petronius Arbiter a Publius Petronius Niger, ond gan amlaf yn syml fel Petronius. Ef oedd awdur y nofel ddychanol Satyricon.[1] Nid etifeddodd y cognomen (enw teuluol) "Arbiter"; yn lle hynny enillodd yr enw hwnnw fel elegantiae arbiter (hynny yw, "beirniad chwaeth") yn llys yr ymerawdwr Nero.
Ychydig a wyddys am ei fywyd y tu hwnt i'r hyn a adroddir gan Tacitus yn ei Annales XVI:18-19, er enghraifft:
Byddai'n treulio'r dydd mewn cwsg, y nos yn nyletswyddau a phleserau bywyd. Ac fel yr oedd diwydiant wedi dod ag enwogrwydd i eraill, felly yr oedd ei ddiogi wedi dod ag enwogrwydd iddo, ac nid oedd yn cael ei ystyried yn glwth ac yn warth, fel y rhan fwyaf o'r rhai sy'n ymbleseru, ond yn hytrach yn ddyn o foethusrwydd dysgedig. A pho fwyaf hamddenol a hunan-foddhaol oedd ei eiriau a'i weithredoedd, mwyaf ffafriol a gawsant fel ymddangosiad o symlrwydd.[2]
Mae Tacitus hefyd yn adrodd hanes ei farwolaeth. Ac yntau wedi’i gyhuddo o frad yn erbyn Nero, mae Petronius yn galw ei ffrindiau at ei gilydd i giniawa ac i drafod barddoniaeth a materion cain cyn iddo ladd ei hun trwy hollti ei arddyrnau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Satyrica (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Califfornia. 1996. t. xiii. ISBN 9780520211186.
- ↑ "nam illi dies per somnum, nox officiis et oblectamentis vitae transigebatur; utque alios industria, ita hunc ignavia ad famam protulerat, habebaturque non ganeo et profligator, ut plerique sua haurientium, sed erudito luxu. ac dicta factaque eius quanto solutiora et quandam sui neglegentiam praeferentia, tanto gratius in speciem simplicitatis accipiebantur." P. CORNELI TACITI ANNALIVM LIBER SEXTVS DECIMVS", The Latin Library; adalwyd 17 Ionawr 2025