Neidio i'r cynnwys

Peter Stead

Oddi ar Wicipedia
Peter Stead
Ganwyd22 Awst 1943 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 2026 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gowerton Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Awdur, darlledwr a hanesydd o Gymru oedd Peter Stead FLSW (22 Awst 194323 Mawrth 2026).[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stead yn y Barri a mynychodd Ysgol Ramadeg y Barri i Fechgyn. Roedd ei dad yn blismon ac yn 1957 cafodd ddyrchafiad yn ei swydd. Symudodd y teulu i Dregŵyr ger Abertawe, a mynychodd Stead yr Ysgol Ramadeg yno.

Aeth ymlaen i astudio Hanes ym Mhrifysgol Abertawe o dan yr Athro Glanmor Williams. Graddiodd ym 1964 ac yna treuliodd ddwy flynedd fel myfyriwr ôl-raddedig. Teithiodd i'r Unol Daleithiau fel ysgolhaig Fulbright, yn Ngholeg Wellesley, ac ym Mhrifysgol Gogledd Carolina.[2]

Daeth yn ôl i Abertawe yn 1966 gan ymuno â staff y brifysgol. Roedd yn ddarlithydd ac yna'n Athro yn yr Adran Hanes cyn ymddeol yn 1997.

Ef oedd sylfaenydd a chadeirydd Gwobr Lenyddol Dylan Thomas ar gyfer awduron ifanc a newydd.[3] Ynghyd â Patrick Hannan, roedd Stead yn aelod o dîm Cymru yn y gyfres radio Round Britain Quiz am sawl blwyddyn. Yn 2013, etholwyd Stead yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.[4]

Marwolaeth a theyrngedau

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn 83 mlwydd oed.

Cafwyd datganiad gan Wasg Prifysgol Cymru wrth golwg360 ei fod wedi gwneud “cyfraniad unigryw” i restr gyhoeddi’r wasg ac i astudiaeth ym maes hanes modern Cymru yn gyffredinol.

Dywedodd Daniel Gwydion Williams, Athro Saesneg ym mhrifysgol Abertawe y bydd “llawer ohonom yn gweld colli cwmnïaeth a ffraethineb Peter Stead.”[5]

Gweithiau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Seren". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-26. Cyrchwyd 2009-10-12.
  2. "Peter Stead - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2026-03-27.
  3. "New Writing International". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2012. Cyrchwyd 12 October 2009.
  4. Wales, The Learned Society of. "Peter Stead". The Learned Society of Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-31.
  5. "'Cyfraniad unigryw i hanes modern Cymru': Teyrngedau i'r hanesydd a'r awdur Peter Stead". Golwg360. 2026-03-25. Cyrchwyd 2026-03-25.