Peter Gill
| Peter Gill | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Medi 1939 Caerdydd |
| Bu farw | 3 Awst 2026 Hammersmith |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, dramodydd, actor, actor llwyfan, cyfarwyddwr |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, OBE, Fellow of the Royal Welsh College of Music and Drama |
| Gwefan | http://www.petergill7.co.uk/ |
Dramodydd, cyfarwyddwr theatr ac actor o Gaerdydd oedd Peter Gill OBE, FRSL (7 Medi 1939 – 3 Awst 2026). Roedd yn ddylanwad pwysig ar nifer o actorion o Gymru ac yn awdur toreithiog o ddramâu, llawer ohonynt yn Gymreig fel The Sleepers' Den, Over Gardens Out, Small Change a Cardiff East. Roedd ei ddramâu eraill fel Certain Young Men yn gamau pwysig ymlaen yn hanes theatr LHDT. Etholwyd Gill yn Gymrawd o'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol yn 2019. [1] Gweithiodd gyda llawer o actorion o Gymru megis Daniel Evans, Luke Evans, Mark Lewis Jones, Di Botcher, Lisa Palfrey, Windsor Davies a Matthew Rhys.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gill yng Nghaerdydd yn fab i George John a Margaret Mary (née Browne) Gill, a chafodd ei addysgu yng Ngholeg Sant Illtyd, Caerdydd.
Rhwng 1957 a 1965 gweithiodd fel actor, cyn dechrau cyfarwyddo yn Theatr y Royal Court ym mis Awst 1965 gyda'r cynhyrchiad A Collier's Friday Night gan D. H. Lawrence. Roedd bellach yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyfarwyddwr a dramodydd.[3]
Ym 1964, daeth Gill yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn y Royal Court ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt ym 1970. Ym 1969, cyflwynodd y Theatr ddwy o'i ddramâu cynnar ei hun hefyd sef The Sleepers' Den ac Over Gardens Out, "a ddatgelodd y gallai Gill, gyda chynildeb modd a sgiliau geiriol, ddehongli amgylchiadau ei blentyndod yng Nghaerdydd." [4]
Penodwyd Gill yn gyfarwyddwr artistig Stiwdios Riverside ym 1976, gan agor y theatr yn swyddogol ar 30 Mai 1976 gyda ei gynhyrchiad o As You Like It (gyda Jane Lapotaire fel Rosalind a Zoë Wanamaker fel Celia, gyda dyluniad llwyfan gan William Dudley). Llwyfannodd ei addasiad ei hun o The Cherry Orchard gan Chekhov yn fuan wedyn.
Ymadawodd Gill â'r Riverside ym 1980 i fod yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Theatr Genedlaethol. Fel Cyfarwyddwr Cyswllt rhwng 1980 a 1997, sefydlodd Gill y Stiwdio nodedig, sy'n rhan o'r Theatr Genedlaethol Frenhinol ym 1984, a fu'n weithredol hyd 1 Hydref 1990. Yn ei eiriau ei hun:
"When I set up the National Theatre Studio the development and analysis of acting was a central part of the work, so that, along with commissioning writers, developing directors and designers, investigating non-text based work, and producing work for the main house, the practice and analysis of acting skills seemed an essential part of any programme of work that was in part concerned with process".[5]
Roedd Gill yn gwbl agored ynglŷn â'i rywioldeb, ac yn arddel ei hun fel dyn hoyw. Bu'n byw o'r 1960au hyd at 2006 mewn fflat bychan ar lannau'r Afon Tafwys mewn tŷ oedd gynt yn eiddo i George Devine ac a brynwyd yn ddiweddarach gan y dramodydd Donald Howarth a'i bartner sifil George Goetschuis. Mae enw Gill yn cael ei grybwyll sawl gwaith yn nyddiaduron Joe Orton, ac fe gyfarwyddodd ddwy gyfres o ddramâu teledu gan Orton wedi'i haddasu ar gyfer Theatr y Royal Court o'r enw Crimes of Passion.
Yn 2007, cyfaddefodd Daniel Evans ei fod yn edmygwr mawr o waith Gill, "Dw i'n meddwl mai ef yw'r awdur gorau yn y D.U heddiw," ychwanegodd. Gweithiodd Evans gyda'r dramodydd am y tro cyntaf ym 1997 yn ei ddrama Cardiff East ac wedi cyfarwyddo sawl drama o'i eiddo ers hynny.[6]
Teyrngedau
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei farwolaeth yn Awst 2026, cafwyd sawl teyrnged i Gill gan sefydliadau o Gymru. Galwodd Theatr Clwyd ef yn "[g]awr theatr Cymru a'r D.U" ac yn "freintiedig iawn i fod wedi gweithio gyda Peter ar ei addasiad o Ewythr Vanya, dan gyfarwyddyd ein Cyfarwyddwr Artistig blaenorol Tamara Harvey". Diolchwyd iddo hefyd am eu hysbrydoli i sefydlu Stiwdio Clwyd. "Nos da Peter, diolch yn fawr iawn!".[7]
Dywedodd y Welsh National Theatre eu bod wedi "tristáu'n fawr wrth glywed am farwolaeth Peter Gill. Wrth fyfyrio ar etifeddiaeth Peter, dywedodd Michael Sheen: "I remember when Peter had Cardiff East on at the National Theatre and we had Badfinger at the Donmar at the same time. Two new Welsh plays. More Welsh actors on major stages at the same time than ever before." Fel dramodydd, cyfarwyddwr a mentor, fe luniodd genedlaethau o artistiaid Cymreig a thrawsnewid theatr yng Nghymru. Diolch, Peter."[8]
Diolchodd y Theatr Genedlaethol Frenhinol am ei waith gan ychwanegu: "Ysgrifennodd a chyfarwyddodd ganon bach ond nodedig o ddramâu hynod dosturiol yn archwilio bywydau dosbarth gweithiol a rhywioldeb hoyw gydag ysgrifennu wedi'i gyfansoddi'n hyfryd a oedd yn anffasiynol o gynnil ac yn emosiynol ddinistriol".[9]
Diolch hefyd wnaeth yr actor Luke Evans "Rhoddodd y dyn hwn rôl i mi mewn drama pan oeddwn i'n 27 oed a newidiodd fy mywyd proffesiynol cyfan. [...] [Gadawodd] 'waddol o waith ar ei ôl yr oeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn rhan fach ohono. Heb y ddrama Small Change honno a ysgrifennodd a chyfarwyddodd fi ynddi, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i erioed wedi cael gyrfa ffilm, nac unrhyw yrfa i fod yn onest. Cwsg mewn hedd Peter annwyl a diolch."[10]
Gwaith ddetholedig
[golygu | golygu cod]Fel dramodydd
[golygu | golygu cod]- The Sleepers Den, 1965; Royal Court, 1969
- Over Gardens Out, Royal Court, 1969
- Small Change, Royal Court, 1976
- Kick for Touch, Theatr Genedlaethol Frenhinol, 1983
- In the Blue. Theatr Genedlaethol Frenhinol, 1985
- Mean Tears, Theatr Genedlaethol Frenhinol, 1987
- Cardiff East, Theatr Genedlaethol Frenhinol, 1997
- The Look Across the Eyes, cyhoeddwyd 1997
- Certain Young Men, Theatr Almeida, 1999
- Friendly Fire, Theatr Ieuenctid Crucible, Sheffield, 2002
- Lovely Evening, Theatre 503, 2005
- The York Realist, Royal Court, 2002; a wedi hynny yn y Donmar Warehouse a'r Crucible Sheffield 2018
- Original Sin, Crucible Sheffield, 2002
- Another Door Closed, Theatr Frenhinol Caerfaddon, 2009
- Versailles, Donmar Warehouse, 2014
- As Good A Time As Any, Print Room, 2015
- Something in the Air, Theatr Jermyn Street, 2022
Fel addasydd
[golygu | golygu cod]- A Provincial Life (Chekhov), Royal Court, 1966
- The Merry-Go-Round (D. H. Lawrence), Royal Court, 1973
- The Cherry Orchard (Chekhov), Stiwdios Riverside, 1978
- Touch and Go (D. H. Lawrence), Stiwdios Riverside, 1980
- As I Lay Dying (William Faulkner), Theatre Genedlaethol Frenhinol, 1985
- The Seagull (Chekhov), Theatr y Swan, 2000. Comisiwn RSC.[11]
- Uncle Vanya (Chekhov), Theatr Clwyd & Crucible Sheffield, 2017
Fel Cyfarwyddwr
[golygu | golygu cod]Ar gyfer y Theatr Genedlaethol Frenhinol:
- A Month in the Country (Turgenev), Olivier, 1981
- Don Juan gan Molière, Cottesloe, 1981
- Much Ado About Nothing, Olivier, 1981
- Danton's Death (Georg Büchner), Olivier, 1982
- Major Barbara (G. B. Shaw), 1982
- Kick for Touch (Gill), Cottesloe, 1983
- Small Change (Gill), Cottesloe, 1983
- Tales from Hollywood (Christopher Hampton), Olivier, 1983
- Antigone gan Sophocles, Cottesloe, 1983
- Venice Preserv'd gan Thomas Otway, Lyttelton, 1984
- Fool for Love gan Sam Shepard, Cottesloe, 1984
- As I Lay Dying gan William Faulkner, addasiad Peter Gill, Cottesloe, 1985
- Five Play Bill, Cottesloe, 1985, yn cynnwys In the Blue (Gill)
- Mean Tears (Gill), Cottesloe, 1987
- Mrs Klein gan Nicholas Wright, Cottesloe, 1988
- Juno and the Paycock gan Seán O'Casey, Lyttelton, 1989
- Cardiff East (Gill), 1997
- Luther (John Osborne), Olivier, 2001
- Scenes from the Big Picture (Owen McCafferty), Cottesloe, 2003
- The Voysey Inheritance gan Harley Granville-Barker, Lyttelton, 2006
Cwmnïau eraill
[golygu | golygu cod]- O'Flaherty V.C. gan Bernard Shaw, Mermaid Theatre, 1966
- Crimes of Passion a June Evening (taith), 1967
- Life Price a Much Ado About Nothing, Stratford, Connecticut, 1969
- Landscape a Silence gan Harold Pinter, Lincoln Center Forum Theater, 1970
- Hedda Gabler gan Ibsen, Stratford, Ontario, Canada 1970
- Cato Street, Young Vic,1971
- Crete and Sergeant Pepper a Midsummer Night's Dream, Zürich, 1972
- The Daughter-in-Law, Bochum, 1972
- Twelfth Night, RSC Stratford 1974, Theatr Aldwych, 1975
- As You Like It, Nottingham Playhouse, Gŵyl Caeredin 1975
- The Way of the World gan William Congreve, Lyric Hammersmith, 1992
- New England (Richard Nelson), RSC 1994
- Certain Young Men (Gill), Theatr Almeida 1999
- Speed-the-Plow gan David Mamet, Llundain 2000
- The York Realist (Gill) Royal Court, 2002
- Original Sin (Gill), Sheffield, 2002
- Gaslight gan Patrick Hamilton, Old Vic, 2007
- The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde, Caerfarddon 2007
- Another Door Closed gan Peter Gill, Caerfarddon 2009
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- To Bodies Gone: The Theatre of Peter Gill, gan Barney Norris, Seren (2014); ISBN 978-1781721810
- Who's Who in the Theatre, Cyfrol 17, Gale (1981); ISBN 0-8103-0234-9
- The National: The Theatre and its Work 1963–1997 gan Simon Callow, Nick Hern Books (1997); ISBN 1-85459-323-4
- At the Royal Court: 25 Years of the English Stage Company, gol. Richard Findlater, Amber Lane Press (1981); ISBN 0-906399-22-X
- Actors Speaking with an introduction by Peter Gill, gol Lyn Haill, Oberon Books (2007); ISBN 1-84002-776-2
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gill, Peter". Royal Society of Literature (yn Saesneg). 2023-09-01. Cyrchwyd 2025-07-05.
- ↑ "Cardiff East by Peter Gill, Cottesloe, 1997". www.petergill7.co.uk. Cyrchwyd 2026-08-04.
- ↑ A shining light: Peter Gill, the unsung hero of British theatre, Michael Billington, The Guardian, 4 Sep 2019
- ↑ John Elsom yn The Cambridge Guide to World Theatre, Cambridge University Press (1988)
- ↑ Rhagair i Actors Speaking (2007)
- ↑ "Evans' delight at Olivier award" (yn Saesneg). 2007-02-20. Cyrchwyd 2026-08-05.
- ↑ "Facebook". www.facebook.com. Cyrchwyd 2026-08-05.
- ↑ "Facebook - Welsh National Theatre". 5 Awst 2026. Cyrchwyd 5 Awst 2026.
- ↑ "Tudalen y National Theatre ar Facebook". 4 Awst 2026. Cyrchwyd 5 Awst 2026.
- ↑ "Tributes paid to 'quietly seismic' theatre director and playwright Peter Gill". BBC News (yn Saesneg). 2026-08-04. Cyrchwyd 2026-08-05.
- ↑ "Chekhov Seagull FT review". www.petergill7.co.uk. Cyrchwyd 2026-08-04.