Pervez Musharraf
Pervez Musharraf | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Awst 1943 ![]() Delhi ![]() |
Man preswyl | Delhi, Karachi, Ankara ![]() |
Dinasyddiaeth | Pacistan, yr oruchwyliaeth Brydeinig yn India ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ariannwr, person milwrol, cyfranogwr fforwm rhyngwladol ![]() |
Swydd | Arlywydd Pacistan, Prif Weinidog Pacistan, Defence Minister of Pakistan, Chief of Army Staff, Chairman Joint Chiefs of Staff Committee ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Pakistan Muslim League (Q), All-Pakistan Muslim League ![]() |
Priod | Sehba Musharraf ![]() |
Gwobr/au | Sitara-i-Imtiaz, Order of Zayed, Nishan-e-Imtiaz, Tamgha-i-Basalat, Imtiazi Sanad, Urdd Abdulaziz al Saud ![]() |
Pervez Musharraf (Urdu: پرويز مشرف) (ganed 11 Awst 1943) yw cyn-arlywydd Pacistan, a chyn Pennaeth Staff Byddin Pacistan. Daeth i rym yn 1999 trwy drefnu a gweithredu coup d'état milwrol ac mae wedi rhoi heibio cyfansoddiad Pacistan ddwywaith; ers hynny, mae wedi cael ei gefnogi'n ymarferol (trwy gymorth milwrol ac ariannol) gan wledydd y Gorllewin gan gynnwys yr Unol Daleithiau. Cipiodd Musharraf rym ar 12 Hydref, 1999, gan droi allan Nawaz Sharif, Prif Weinidog etholedig y wlad, cafodd wared ar y cyrff deddfwriaethol cenedlaethol a thaleithiol, cymerodd iddo'i hun y teitl o Brif Weithredwr a daeth felly'n arweinydd de facto llywodraeth Pacistan, y pedwerydd pennaeth milwrol yn hanes y wlad i wneud hynny. Yn ddiweddarach, yn 2001, apwyntiodd Musharraf ei hun i swydd Arlywydd Pacistan.
Ar 3 Tachwedd, 2007, ddyddiau yn unig cyn i Brif Lys Pacistan benderfynu ei barn ar ddeiseb a heriodd ddilysrwydd cyfansoddiadol ei ail-ethol yn arlywydd yn etholaethau dadleuol Hydref 2007, rhoddodd Musharraf heibio'r cyfansoddiad eto, arestiodd sawl barnwr a chyfreithiwr o'r Prif Lys, yn cynnwys y Prif Farnwr Iftikhar Muhammad Chaudhry, gorchmynodd arestio gwrthwynebwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr dros hawliau dynol, a chaeodd bob sianel teledu preifat. Cyhoeddodd stâd o argyfwng yn y wlad. Ymddiswyddodd Musharraf fel arlywydd ar 18 Awst 2008.