Persi Rygarug
| Enghraifft o: | drama lwyfan |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1962 |
| Awdur | Charles Dyer a W. S. Jones |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi yn Gymraeg |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
| Dynodwyr | |
Cyfieithiad Wil Sam Jones o ddrama lwyfan Charles Dyer, yw Persi Rygarug a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1976. La Crécelle neu Rattle of a Simple Man oedd enw'r ddrama wreiddiol a gyhoeddwyd ym 1962. Addaswyd y ddrama yn ffilm lwyddianus hefyd, o dan yr enw Rattle of a Simple Man. Mae'r ddrama'n olrhain hanes "Persi" [Percy Winthram yn y Saesneg] cefnogwr pêl-droed sy'n ymweld â Soho, Llundain ac yn cael ei herio i dalu am butain gan ei gyfeillion.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Cymeriad
Cymraeg |
Cymeriad
Saesneg wreiddiol |
|---|---|
| Persi | Percy Winthram |
| Cyrenne | Cyrenne |
| Ricardo | Ricardo |
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]"Drama am unigrwydd yw hon. Yn ôl Dyer, mae'r ferch ynddi yn berson gwirioneddol, a chred nad yw rhai o nodweddion Persi ddim ymhell oddi wrth neb. Os gogleisir ni o bryd i'w gilydd gan ddatblygiad y berthynas rhwng Cyrenne a Persi, neu ei diffyg datblygiad, anogir ni gan Dyer i beidio anghofio fod yna ddwyster mewn unigrwydd ac mewn ansicrwydd er i'r allanolion fod yn aml yn ddigon digri. Efallai mai ystyriaeth ar ôi gadael y perfformiad a ddengys arwyddocad ehangach y ddrama."[1]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Pan gafodd ei llwyfannu'n wreiddiol ym 1963, derbyniodd lwyddiant rhyngwladol gyda chynhyrchiadau yn Efrog Newydd, Berlin, Paris, Amserdamn a Madrid.[1]
Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1976 o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Martin Morley; Cast:
- Persi - Gwyn Parry
- Cyrenne - Sharon Morgan
- Ricardo - Grey Evans
Oriel cynhyrchiad 1976
[golygu | golygu cod]- Cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Persi Rygarug (1976)
-
Sharon Morgan a Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)
-
Grey Evans yn Persi Rygarug (1976)
-
Sharon Morgan a Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)
-
Sharon Morgan a Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)
-
Sharon Morgan a Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)
-
Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)
-
Sharon Morgan a Gwyn Parry yn Persi Rygarug (1976)