Pererin (band)

Oddi ar Wicipedia
Pererin
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Band gwerinol oedd Pererin a ffurfiwyd yn ystod yr 80au.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cychwynodd Pererin yn yr wythdegau gyda Arfon Wyn, Charlie Goodall, Einion Williams ac Aneurin Owen a Nest Howells yn aelod gwadd ar yr LP gyntaf Haul ar yr Eira ar label GWERIN o Lanelli.

Bu pedwar fersiwn or band gyda Llio Haf Thomas ar y ffliwt yn yr ail fersiwn o'r grwp. Yna gadawodd Charlie ac Aneurin a Llio ac yn eu lle daeth Emyr Afan a Sioned Webb gyda Gethin Evans ar y gitar fas yn achlysurol. Yn nes ymlaen ymunodd Dafydd Wyn ar y gitar fas a Sian Williams ar y soddgrwth. Bu i Sioned Webb ymadael yr un pryd.

Mae Nghariad in Fenws

Recordwyd pedair LP gan y grwp : Haul ar yr Eira, Teithgan, Tirion Dir, ac Yng Ngholau Dydd. Mae recordiadau y grwp yn cael eu hel gan gasglwyr drwy'r byd ac yn werthfawr iawn bellach.