Percy Mansell Jones
Percy Mansell Jones | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1889 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Bu farw | 24 Ionawr 1968 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | romanist, ysgolhaig llenyddol, academydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Arnaud Johnson Jones ![]() |
Mam | Mary Bryon ![]() |
Roedd Percy Mansell Jones (11 Ebrill 1889 – 24 Ionawr 1968) yn Athro Ffrangeg o Gymru.
Ganwyd Percy yng Nghaerfyrddin yn fab i Arnaud Johnson Jones a'i wraig. Dechreuodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin cyn mynd ymlaen i ennill gradd anrhydedd o'r radd flaenaf yn Ffrangeg ym 1908 ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i ennill gradd meistr. Ar ôl ei gyfnod yn Aberystwyth, mynychodd Goleg Balliol, Rhydychen, lle enillodd B.Litt.
Daeth yn ddarlithydd mewn gwahanol brifysgolion, gan arbenigo mewn llenyddiaeth a hanes Ffrengig[1] a barddoniaeth Ffrengig fodern. Fe gafodd swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caergrawnt a Chaerdydd. Fe'i penodwyd yn Athro Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor ym 1937 ac aeth ymlaen i gynnal swydd yr Athro Llenyddiaeth Ffrengig Fodern cyntaf ym Mhrifysgol Manceinion ym 1951. Ym 1960, cafodd ei anrhydeddu a Gradd Anrhydedd D.Litt o Brifysgol Cymru, a ddyfarnwyd iddo yn fuan wedi iddo ymddeol.
Roedd Percy Jones yn arbenigo mewn barddoniaeth modern Ffrengig a oedd yn darparu sensitifrwydd a dealltwriaeth naturiol i wahanol feirdd Ffrengig. Er enghraifft, bu'n astudio beirdd fel Emile Verhaeren a Baudelaire. Amlygir hyn yn ei lyfr The Oxford Book of French Verse, a gyhoeddwyd ym 1957. Yn ogystal ag angerdd am farddoniaeth Ffrengig, ysgrifennodd amryw o draethodau sy'n tynnu sylw at ei ddiddordeb mewn deall meddyliau Ffrangeg a materion cyfoes. Y traethodau hyn yw: French Introspectives (1937), The Background of Modern French Poetry (1951) a Tradition and Barbarism (1930).
Bu farw ar 24 Ionawr 1968.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jones, P. Mansell (Percy Mansell), 1889-1968 @ SNAC". snaccooperative.org. Cyrchwyd 2018-01-03.
- ↑ "The National Library of Wales :: Dictionary of Welsh Biography". yba.llgc.org.uk. Cyrchwyd 2018-01-03.