Pentre Broughton

Oddi ar Wicipedia
Pentre Broughton
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0699°N 3.0372°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ306530 Edit this on Wikidata
Map

Mae Pentre Broughton[1] yn bentref bach, a arferai fod yn ddiwydiannol ac wedi'i leoli yng nghymuned Brychdyn ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru. Mae'n ffinio â phentrefi cyfagos sef Moss a Brynteg.

Daw enw'r pentref o'r gair Cymraeg pentre ("village") ynghyd â Brychdyn. Enw maestref plwyf Wrecsam yw Brychdyn ( Brymbo yn ddiweddarach) ac yma y lleolir y pentref. Mae'r enw Saesneg "Broughton" yn ymddangos yn arolwg Llyfr Dydd y Farn o'r ardal ac mae'n debyg mai'r ystyr yw "brook town".[2] Ei enw gwreiddiol oedd Pentre Cerni.[3]

Mae llawer o'r pentref yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, ar ôl ehangu diwydiannol yn yr ardal, ond mae'n ymddangos yn Arolwg Ordnans 1873 o Sir Ddinbych fel "Pentre" a "Phentre isaf" ("lower village"). Mae enwau'r lleoedd hyn, yn hytrach na "Pentre Broughton" yn ymddangos ar fapiau tan ail hanner yr 20fed ganrif, ac yn aml cyfeirir at y pentref yn syml fel "Pentre" gan drigolion lleol.

Adeiladwyd eglwys St Paul ym Mhentre Broughton, ym 1888-89, er na chafodd ei chysegru tan 1909, ychydig cyn i Frychdyn gael ei wneud yn blwyf ar wahân ynddo'i hun. [4] Dyluniwyd yr eglwys gan y pensaer Howel Davies o Wrecsam. [5]

Roedd llawer o drigolion y pentref yn gweithio ym maes cloddio glo, neu yng Ngwaith Dur Brymbo a oedd, hyd nes iddo gau yn 1990, yn dominyddu golygfa gogledd y pentref.Yn gynt, Y Cross Foxes ar stryd fawr Pentre oedd man cyfarfod undebau gweithwyr glo'r ardal; ac mewn un cyfarfod o'r 19eg ganrif, ymgasglodd dros 6000 o bobl yno ar gyfer gwrthdystiad. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. A. N. Palmer ac E. Owen, A History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches, 2il arg. (1910), t.245
  3. 1841-1910., Owen, Griffith, (1914). Hanes Methodistiaeth Sir Fflint. Cyfarfodydd Misol Dwyrain Dinbych a Fflint. OCLC 1118107913.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  4. Broughton, St. Paul, GENUKI
  5. St Paul's, Broughton, Church Plans Online
  6. Cross Foxes, North Wales Miners Association Trust