Penrhyn Galloway
Gwedd
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dumfries a Galloway |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Sianel y Gogledd |
Cyfesurynnau | 54.85°N 5.05°W |
Penrhyn ar yr arfordir gorllewinol Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Penrhyn Galloway (Gaeleg yr Alban: Na Rannaibh; Saesneg: Rhins of Galloway). Mae'n ymestyn yn fwy na 40 km (25 milltir) o'r gogledd i'r de. Mae Pentir Galloway (Gaeleg yr Alban: Maol nan Gall; Saesneg: Mull of Galloway) – pwynt mwyaf deheuol yr Alban – wedi'i leoli yn ei ben deheuol.
Prif dref y penrhyn yw porthladd Stranraer. Mae pentrefi gwasgaredig hefyd, gan gynnwys Portpatrick, Kirkcolm, Leswalt, Stoneykirk, Sandhead, Ardwell a Drummore.