Penderyn (wisgi)

Oddi ar Wicipedia
Penderyn
Sefydlwyd19th century
PencadlysCwm Cynon


Distyllfa Penderyn yn 2008.

Wisgi brag sengl Cymreig gwobrwyol yw Penderyn, y wisgi cyntaf ar gael yn fasnachol a wnaed yng Nghymru ers y 19g. Cynhyrchwyd y wisgi gan Distyllfa Penderyn (a elwid gynt yn Gwmni Wisgi Cymreig), mae'n wisgi brag sengl gryfder premiwm (46%) a gynhyrchir mewn sawl mynegiant. Mae'n cael ei ddistyllu ym mhentref Penderyn yng Nghwm Cynon, Rhondda Cynon Taf.