Pen Flamborough

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pen Flamborough
Cliffs at Flamborough Head.jpg
Math pentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Dwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Gerllaw Môr y Gogledd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.116°N 0.0831°W Edit this on Wikidata

Pentir o glogwyni calchfaen yn 400 troedfedd o uwchder yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Pen Flamborough.[1] Mae Pen Flamborough yn safle pwysig i adar y môr. Yn yr haf, mae miloedd o garfilod, filfranod gwynion, piod y môr, hwyaid mwythblu, mulfrain[1] a gwylanod yn bridio.[2]

Codwyd goleudy ym 1669, ond heb ei ddefnyddio. Codwyd yr un presennol ym 1806, yn costio £8,000.[1]

Clogwyni Flamborough

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]