Neidio i'r cynnwys

Pen-y-bont Bro Morgannwg (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Pen-y-bont Bro Morgannwg
Enghraifft o:etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o etholaethau'r Senedd yw Pen-y-bont Bro Morgannwg, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Mae'r etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2024 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy o etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig, sef Pen-y-bont ar Ogwr ar y naill law a Bro Morgannwg ar y llall. Bydd y ffiniau'n cael eu hadolygu eto cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd yr enw a'r ffiniau Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym Mawrth 2025. [1]

Mae'n cynnwys rhannau o siroedd (hynny yw, prif ardaloedd) Pen-y-bont ar Ogwr, a Bro Morgannwg. Sefydlwyd yr etholaeth ar gyfer Etholiad 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod â'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" mwy, gan uno 32 etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio system bleidleisio newydd sy'n gwbl gyfrannol, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[2]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Aelodau'r Senedd

[golygu | golygu cod]
Tymor Etholiad Dosbarthiad MS 1 MS 2 MS 3 MS 4 MS 5 MS 6
7fed 2026
2 1 1 2
Mark Hooper
(PC)
Sarah Cooper Lesadd
(Ref)
Sarah Rees
(PC)
Andrew R. T. Davies
(Con)
Gareth Thomas
(Ref)
Sarah Murphy
(Lab)

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]

E - Etholwyd

Etholiad Senedd Cymru, 2026: Pen-y-bont Bro Morgannwg
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Mark Hooper (E)
Sarah Rees (E)
Luke Fletcher
Marianne Cowpe
Ian Johnson
Iolo Caudy
Dennis Clarke
27,407 33.5 +20.2
Reform UK Sarah Cooper-Lesadd (E)
Gareth Thomas (Reform UK) (E)
Paul Young
Emma Clatworthy
Valerie Ellis
Dennis Coughlin
24,602 30.1 +29.1
Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies (E)
Altaf Hussain
Jonathan Pratt
Kate Thomas
Rebekah Fudge
Michael Bryan
12,464 15.2 −18.0
Llafur Sarah Murphy (E)[3]
Huw David
Carys Stallard
Jonathan Cox
Jon-Paul Blundell
Helen Payne
Neelo Farr
Rhys Goode
9,518 11.6 −24.6
Y Blaid Werdd Amy Greenfield
Saar Lenaerts
Rob Sage
Aaron Steer
Todd Bailey
Andy Roberts
4,220 5.2 +1.0
Rhyddfrydwyr Steven Rajam
Gabriela Ferguson
Paula Yates
Wayne Street
Joe Boyle
Matthew Dixon
2,175 2.7 0.0
Mwyafrif 2,805 3.4 Newydd
Nifer pleidleiswyr 81,801 53.6 +5.0
Etholwyr cofrestredig 152,519

Ymgeiswyr

[golygu | golygu cod]

Toc wedi cyhoeddi mai Corey Edwards fyddai'r gyntaf ar restr Reform UK, fe dynnodd ei enw yn ôl oherwydd bod llun ohono'n gwneud saliwt Natsïaidd wedi ymddangos.[4] Yr un wythnos, tynnodd Derek Roberts, oedd yn yr ail safle ar eu rhestr wreiddiol, ei enw yn ôl hefyd. Tynnodd Owain Clatworthy ei enw yn ôl yn sgil ffrae fewnol yn y blaid.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  2. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  3. Green, Daniel (2025-12-02). "Senedd elections 2026: Who are Welsh Labour's candidates?". LabourList. Cyrchwyd 2026-01-06.
  4. 1 2 "Helynt ac ansicrwydd i Reform UK ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg". Golwg360. 2026-04-01. Cyrchwyd 2026-04-01.