Neidio i'r cynnwys

Pen-blwydd Hapus i Ti

Oddi ar Wicipedia
Y gân wreiddiol: Good-Morning to All
Y gân: Good-Morning to All. 22 eil.
Fersiwn offerynnol o: "Good Morning to All".

Cân draddodiadol a genir i longyfarch a dathlu pen-blwydd person yw Pen-blwydd hapus i ti! Yn ôl y Guinness World Records dyma'r gân Saesneg mwyaf adnabyddus ledled y byd.[1] Cenir y gân mewn nifer o ieithoedd. Honir mai dwy chwaer, dwy athrawes a sgwennodd y gân a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1893 mewn cyfrol o'r enw Song Stories for the Kindergarten, gyda geiriau "Good Morning to All" i groesawu'r disgyblion i'w dosbarth; y ddwy athrawes oedd Patty Hill a Mildred J. Hill. Mae rhai pobl yn mynnu mai'r geiriau'n unig a ysgrifennwyd ganddynt.[2] Prifathrawes mewn kindergarten yn Louisville, Kentucky oedd Patty ar y pryd[3] a phianydd a chyfansoddwraig oedd Mildred.[1] Yn 1912 yr ymddangosodd y geiriau mewn print yn gyntaf, heb unrhyw rybydd o hawlfraint arnyn nhw. Bellach, Warner Brothers bia hawlfraint y gân a chaiff ei defnyddio'n aml i ddangos mor hurt (yng ngolwg rhai) yw deddfau hawlfraint y byd.

Hawlfraint

[golygu | golygu cod]

Cofrestrodd y cwmni 'Summy' hawlfraint y gân yn 1935, fel gwaith "Work for hire" (comiswn) gan nodi mai'r awduron oedd Preston Ware Orem a 'Mrs. R.R. Forman'. Yn 1988 prynnwyd Cwmni Summy gan "Warner/Chappell Music" am $25 miliwn.[4][5] O seilio'r cyfnod hawlfraint ar y cofrestriad cyntaf yn 1935, bydd yr hawlfraint hwn yn parhau hyd at 2030, ac mae unrhyw berfformiad o'r gân cyn ddiwedd y cyfnod hwn yn anghyfreithlon, oni delir arian i Warner. Er enghraifft, yn Chwefror 2010, canwyd y gân ar y rhaglen Americanaidd The Wendy Williams Show a chostiodd hynny $700.[6] Yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd bydd yr hawlfraint yn dod i ben ar y diwrnod olaf o Ragfyr 2016; sef bywyd y cyfansoddwr + 70 mlynedd.[7]

Yn 2008, casglodd Warner oddeutu $5,000 y diwrnod ($2 miliwn y flwyddyn) mewn breindal am y 'Pen-blwydd Hapus i Ti'.[1], tud. 4,68 Maent yn mynnu'r breidaliadau hyn am bob perfformiad lle mae'r mwyafrif o'r bobl sy'n cymryd rhan o'r tu allan i'r teulu.

Yn ôl yr Athro Robert Brauneis mae dryswch ynghylch yn union pwy yw awduron y gân, a daeth i'r casgliad, "Bellach, bron yn sicr, nad yw o dan cyfreithiau hawlfraint."[1][8]

Geiriau Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Ceir fersiwn Gymraeg o'r gân a genir, fel mewn gwledydd eraill, i'r un dôn ac ar achlysuron dathlu pen-blwydd.[9]

\relative c' { \key f \major \time 3/4 \partial 4 c8. c16 | d4 c f | e2 c8. c16 | d4 c g' | f2 c8. c16 | c'4 a f | e( d) bes'8. bes16 | a4 f g | f2 \bar "|." } \addlyrics { Pen -- blwydd ha -- pus i ti, Pen -- blwydd ha -- pus i ti, Pen -- blwydd ha -- pus i John, __ Pen -- blwydd ha -- pus i ti. }

Addasiadau (34 iaith)

[golygu | golygu cod]
IaithTeitlYnganiad Rhyngwladol
AlmaenegZum Geburtstag viel Glück[t͡sʊmgəˈbʊɐtstakfi:lˈglʏk]
Arabegعيد ميلاد سعيد[aidamilɛd sait]
ArabegAïd milèd saïd[aidmilɛdsaid]
BasgegZorionak zuri[sorionak suri]
Bengaliশুভ জন্মদিন ![ʃubʱodʒɔnmod̪in]
BelarwsegЗ днём нараджэнняZ dnyom naradžennya [zdn̪ʲɔmnaradʐɛn̪ʲn̪ʲa]
CatalanegPer molts anys[pərmolzanʃ]
Creol HaitiBòn fèt[bɔn fɛt]
CymraegPen-blwydd hapus[pɛnblʊɨðˈhapɨ̞s]
EidalegBuon compleanno ou Tanti auguri a te[bwɔŋkompleˈanːo]
EsperantoFeliĉan naskiĝtagon[felit͡ʃanːaskid͡ʒtagon]
FfinnegHyvää syntymäpäivää[hyvæːsyntymæpæi̯væː]
Ffrangeg
Ffrangeg
Joyeux anniversaire[10]
Bonne fête
[ʒwajøzanivɛʁsɛʁ]
[bon fɛt]
Groegχαρούµεvα γενέθλια[xaˈrumena jeˈnɛθlja]
GwyddelegBreithlá sona[brɛhɛtlasona]
Hebraegיוֹם הֻלֶּדֶת שָׂמֵחַyom huledet sameakh
Hindiजन्मदिन मुबारक[janmadinmubarka]
HwngaregBoldog születésnapot[ˌboldoɡˈsylɛteːʃnɒpot]
IslandegTil hamingju með afmælið[tʰɪlhamɪncʏ:mɛðafmaɪlɪθ]
Japanegお誕生日おめでとう[otandʒoːbiomedetoː]
LladinNatalis beati[naːˈtaːlɪs bɛˈaːtiː]
LlydawegDeiz-ha-bloaz laouen[dɛjzablwazˈlɔwːɛn]
MalagasegArahaba ianao[arahaba ianao]
Persiegتولدت مبارک[tavalodat mobarak]
PortiwgalegFeliz aniversário, parabéns[fəˌliʒɐnivəɾˈsaɾiu], [pɐɾɐbɐ̃j̃ʃ]
PwylegWszystkiego najlepszego[fʂɨstkʲɛgo najlɛpʂɛgo]
RwmanegLa mulți ani[lamultsʲanʲ]
RwsiegС днём рожде́нияS dnyóm rozhdéniya [ˈzdnʲɵmrɐʐˌdʲenʲɪjə]
SaesnegHappy birthday[hæpiˈbɜːθdeɪ̯]
SbaenegFeliz cumpleaños[feliθkumpleˈaɲos]
SerbegCрећан рођендан / Srećan rođendan[srêt͡ɕanrôd͡ʑɛndaːn]
SlofacegVšetko najlepšie[ˈfʃɛtkoˌnajlɛpʃɪjɛ]
Thaiสุขสันต์วันเกิด[suksãtwãkɛd]
TsiecegVšechno nejlepší[ˈfʃɛxnoˌnɛjlɛpʃiː]
Tsieinëeg生日快樂 / 生日快乐shēngrì kuàilè [ʂə́nkʐɨkʰu̯âɪ̯lə̂]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 Brauneis, Robert (2010). "Copyright and the World's Most Popular Song". GWU Legal Studies Research Paper No. 1111624. SSRN 1111624. http://scholarship.law.gwu.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1303&context=faculty_publications. , p. 17
  2. ↑ Masnick, Mike. "Lawsuit Filed to Prove Happy Birthday Is in The Public Domain; Demands Warner Pay Back Millions of License Fees", Techdirt.com, 13 Mehefin 2013
  3. ↑ "KET – History: Little Loomhouse". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2015-01-14.
  4. ↑ Benjamin Weiser (13 Mehefin 2013). "Birthday Song's Copyright Leads to a Lawsuit for the Ages". New York Times. Cyrchwyd 14 Mehefin 2013.
  5. ↑ ""Happy Birthday" and the Money It Makes". New York Times. 26 Rhagfyr 1989. Cyrchwyd 7 Mawrth 2013.
  6. ↑ "Transcript of 5 Feb 2010 episode of 'The Wendy Williams Show'". 5 Chwefror 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-09. Cyrchwyd 17 Medi 2014.
  7. ↑ EU countries observe the "life + 70" copyright standard.
  8. ↑ Paul Collins (21 Gorffennaf 2011). "You Say It's Your Birthday. Does the infamous "Happy Birthday to You" copyright hold up to scrutiny?". Slate magazine. Cyrchwyd 9 Awst 2011. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  9. ↑ https://www.youtube.com/watch?v=JjPN47weoks
  10. ↑ Traduction en 1951 Source: Jean-Claude Schmitt, L'Invention de l'anniversaire, Les éditions arkhê, 2010, 176 p.