Neidio i'r cynnwys

Peenemünde (drama)

Oddi ar Wicipedia
Peenemünde
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Owen Roberts
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi2004 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780863819087
CyfresCyfres I'r Golau
Dynodwyr

Drama Gymraeg gan William Owen Roberts yw Peenemünde. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2004 fel rhan o'r Gyfres I'r Golau. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Cafodd ei llwyfannu am y tro cyntaf gan Dalier Sylw yn 2000. Bu cryn ddryswch dros ei theitl gwreiddiol gyda Radio Metropole a Radio Cymru yn cael ei ddefnyddio ym marchnata'r sioe. Radio Cymru a ddefnyddiwyd yn ystod y perfformiadau, ond newidiwyd yr enw erbyn ei chyhoeddi yn Peenemünde.[2]

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Drama mewn dwy act sy'n ystyried mwy nag un dehongliad o hanes Cymro ifanc o'r Wyddgrug a garcharwyd yn 1945 am ei weithgarwch yn darlledu yn Gymraeg ar ran yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Raymond Davis Hughes oedd enw'r cymeriad.


Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Raymond Ifanc
  • Raymond Canol Oed
  • Raymond Hen
  • Helen Sion - holferch Radio Cymru
  • Maud - mam Ray Ifanc
  • Sylvia - cariad Ray Canol Oed

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Dalier Sylw yn 2000 o dan yr enw Radio Cymru neu Radio Metropole gyda'r cast canlynol Owen Garmon, Phil Reid, Dylan Roberts, Einir Sion a Karen Wynne. Bethan Jones oedd yn cyfarwyddo.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  2. "BBC News | WALES | The story of Hitler's Welshman". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-07-28.