Peel, Ynys Manaw

Oddi ar Wicipedia
Peel, Ynys Manaw
Mathtref, dosbarth ar Ynys Manaw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Manaw Edit this on Wikidata
GwladYnys Manaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.221°N 4.691°W Edit this on Wikidata
Cod postIM5 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ar Peel o Ynys St Patrick

Peel (Manaweg: Purt ny hInshey, 'Porth yr Ynys') yw tref bedwaredd fwyaf Ynys Manaw, ar ôl Douglas, Onchan a Ramsey; mae'n gartref i unig eglwys gadeiriol yr ynys ond nid yw'n ddinas swyddogol. Mae ganddi boblogaeth o 5,093 (cyfrifiad 2011).[1] Peel yw prif borthladd pysgota'r ynys.

Eglwys Gadeiriol Peel yw sedd Arglwydd Esgob Sodor a Manaw.

Disgrifir Peel yn aml fel 'dinas y machlud' oherwydd y tywodfaen coch a ddefnyddwyd i godi nifer o'i hadeiladau, gan gynnwys Castell Peel, a leolir ar ynys fechan Ynys St Patrick a gysylltir â'r dref gan sarn. Mae'n dref sy'n boblogaidd gan ymwelwyr yn yr haf. Mae ganddi strydoedd cul deniadol, rhodfa'r môr lydan a thraeth tywodlyd. Gwelir morloi yn yr harbwr weithiau.

Ceir dwy amgueddfa yno: amgueddfa Tŷ Manannan, yr ail fwyaf ar yr ynys, ac Amgueddfa Cludiant Ynys Manaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 21 Ionawr 2013.