Pedro Castillo
Pedro Castillo | |
---|---|
Ganwyd | 19 Hydref 1969 Puña |
Alma mater | |
Swydd | President of Peru |
Plaid Wleidyddol | Possible Peru, Free Peru |
Priod | Lilia Paredes |
Gwobr/au | torch mawr Gorchymyn Condor yr Andes |
llofnod | |
Mae José Pedro Castillo Terrones (ganwyd 19 Hydref 1969), a elwir yn Pedro Castillo, yn undebwr llafur a gwladweinydd o Beriw, a anwyd ym 1969 yn Puña, talaith Chota, Periw. Mae wedi bod yn Arlywydd Gweriniaeth Periw ers 28 Gorffennaf 2021.
Roedd ei fagwraeth yn un dlawd, wledig. Mae'n athro wrth ei alwedigaeth ac roedd yn un o arweinwyr streic athrawon cenedlaethol wnaeth bara bron i dri mis yn 2017.
Yn ystod etholiad arlywyddol Periw yn 2021, fo oedd ymgeisydd y blaid Perú Libre, plaid sy'n arddel Marcsiaeth-Leniniaeth, er nad yw'n aelod o'r blaid. Yn ail rownd yr etholiad, roedd benben â Keiko Fujimori, poblyddwr asgell dde. Etholwyd Castillo gyda 50.1% o'r bleidlais, a hynny wedi 6 wythnos o ail-gyfri.
Mae'n arddel safbwyntiau'r chwith radical o ran yr economi a pholisi tramor, ond safbwyntiau ceidwadol o ran materion cymdeithasol.
Gyrfa gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn 2017, yn ystod streic yn erbyn newidiadau i'r system addysg gan y Llywodraeth ar y pryd, daeth Castillo i'r amlwg fel un o brif lefarwyr mudiad y streic ar lawr gwlad.[1] Yn dilyn llwyddiant y streic, mudiad y magisterio yn hytrach na phlaid wleidyddol oedd sail cefnogaeth Castillo. Yn sgil hyn, gofynnodd y blaid Perú Libre iddo fod yn ymgeisydd.[1]
Mae ganddo ddaliadau cymdeithasol ceidwadol: mae'n gwrthwynebu erthyliad a hawl pobl hoyw i briodi.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Migus, Romain (2021-09-01). "Au Pérou, deux mondes face à face". Le Monde diplomatique (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2021-09-25.