Pauline Collins
| Pauline Collins | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Medi 1940 Exmouth |
| Bu farw | 5 Tachwedd 2025 o clefyd Parkinson Highgate |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor |
| Priod | John Alderton |
| Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, OBE, Gwobr Arbennig 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Roedd Pauline Angela Collins (3 Medi 1940 – 5 Tachwedd 2025) yn actores o Loegr. Daeth i enwogrwydd am y tro cyntaf wrth bortreadu Sarah Moffat yn Upstairs, Downstairs (1971–1973) a'i sgil-gyfres Thomas & Sarah (1979). Roedd hi'n un o sêr gwreiddiol y gyfres gomedi The Liver Birds (1978).
Chwaraeodd Collins y brif ran yn y ddrama llwyfan Shirley Valentine, ac enillodd Wobr Laurence Olivier am yr Actores Orau, a Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama. Chwaraeodd yr un rôl yn addasiad ffilm 1989 o'r ddrama, gan ennill Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Rôl, Gwobr Ffilm Brydeinig yr Evening Standard, Gwobr Golden Apple, ac enwebiadau ar gyfer Gwobr Academi am yr Actores Orau a Gwobr Golden Globe am y Perfformiad Gorau gan Actores - Ffilm.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni yn Exmouth.Roedd hi'n ferch i'r athrawes Mary Honora (ganwyd Callanan), a'i gwr, y pennaeth William Henry Collins.[1] [1] Daeth ei neiniau a theidiau o Iwerddon. Cafodd ei magu yn Wallasey. Priododd hi a'r actor John Alderton ym 1969; roedd hi'n aml yn ymddangos ar y sgrin gydag ef.[2]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Pauline Collins, actress who found fame as Shirley Valentine, the housewife who escapes to Greece". The Telegraph. 6 Tachwedd 2025. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2025.
- ↑ De Los Reyes, Lisa (6 Tachwedd 2025). "Pauline Collins, Star of 'Shirley Valentine,' Dies at 85". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Tachwedd 2025.
- ↑ "Pauline Collins: from Shirley Valentine to Dustin Hoffman". The Guardian. 11 Rhagfyr 2012.
- ↑ Collins, Pauline (6 Gorffennaf 2012). "Letter To Louise" (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Tachwedd 2025 – drwy www.penguin.co.uk.