Paulina Luisi
Paulina Luisi | |
---|---|
Ganwyd | Paulina Luisi Janicki 22 Medi 1875 Colón |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1950 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, geinecolegydd, gwleidydd, swffragét, meddyg |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd Wrwgwai |
Tad | Ángel Luisi Pisano |
Mam | María Teresa Josefina Janicki |
Arweinydd y mudiad Ffeministaidd o Wrwgwái oedd Paulina Luisi (1875 - 1950) a oedd hefyd yn addysgwraig, geinecolegydd, gwleidydd a swffragét. Roedd nid yn unig yn feddyg benywaidd cynta'r wlad, ond hefyd yn athrawes ac yn brif olygydd y cylchgrawn Acción Femenina.
Fe'i ganed yn Colón yn 1875 a bu farw yn Montevideo yn 1950.[1][2][3][4]
Yn 1909, hi oedd y fenyw gyntf o Wrwgwái i ennill gradd feddygol yn Uruguay. Roedd hi'n uchel ei pharch a chynrychiolodd Wrwgwái mewn cynadleddau menywod rhyngwladol, a theithiodd ledled Ewrop. Mynegodd ei barn ar hawliau menywod, ac yn 1919, dechreuodd Paulina gorff i ymgyrchu dros hawliau menywod yn Wrwgwái. Erbyn 1922, roedd y Gynhadledd Menywod Pan-America wedi ethol Paulina Luisi yn Is-lywydd Anrhydeddus, a pharhaodd i fod yn ymgyrchydd nes i Wrwgwái roi'r hawl i fenywod bleidleisio. [5][6]
Ganwyd Paulina Luisi yn yr Ariannin ym 1875. Roedd ei mam, Maria Teresa Josefina Janicki o dras Pwylaidd a chredir bod ei thad, Angel Luisi o dras Eidalaidd. Derbyniodd Paulina Luisi radd baglor yn 1899 ac yn ddiweddarach hi oedd y meddyg a'r llawfeddyg benywaidd cyntaf a raddiodd o Ysgol Feddygaeth Universidad de la República (Prifysgol Wrwgwái, 1908). Ei chwaer, Clotilde Luisi, oedd y fenyw gyntaf o Wrwgwái i astudio yng Nghyfadran y Gyfraith Prifysgol y Weriniaeth.[7][8]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd Wrwgwái.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Brenhinol Galiseg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: https://catalogue.bnf.fr/ark:/12148/cb11154601g. ffeil awdurdod y BnF. dynodwr BnF: 11154601g. dyddiad cyrchiad: 30 Rhagfyr 2018.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.anep.edu.uy/nacimiento-paulina-luisi.
- ↑ Dyddiad marw: https://pmb.parlamento.gub.uy/pmb/opac_css/index.php?lvl=cmspage&pageid=4&id_article=175.
- ↑ Man geni: https://elpais.com/internacional/2021-03-07/paulina-luisi-la-medica-pionera-que-lucho-por-el-derecho-al-voto-de-las-mujeres.html.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 16 Rhagfyr 2022.
- ↑ Aelodaeth: https://academia.gal/institucion/academicos/correspondentes.
- ↑ Luisi, 1950: 30–31, 55–56; 1948: 37–39 in Little 1975: 391
- ↑ Ehrick, 410