Paula Fox

Oddi ar Wicipedia
Paula Fox
Ganwyd22 Ebrill 1923 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 2017 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, nofelydd, awdur plant, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Slave Dancer Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
PriodMartin Greenberg Edit this on Wikidata
PlantLinda Carroll Edit this on Wikidata
PerthnasauFrances Bean Cobain, Courtney Love Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Newbery, Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd oedd Paula Fox (22 Ebrill 1923 - 1 Mawrth 2017) sy'n cael ei chofio am ei gwaith fel cyfieithydd, nofelydd ac awdur plant. Am ei gwaith fel awdures llyfrau plant, derbyniodd Gwobr Hans Christian Andersen, 1978. Yn 1974 enillodd Wobr Newbery am ei nofel The Slave Dancer a dilynwyd hynny gan nifer o wobrwyon eraill.

Aeth ei nofelau i oedolion allan o brint ym 1992. Yng nghanol y 1990au daeth bri ar ei gwaith unwaith yn rhagor, gan fod cenhedlaeth newydd o awduron Americanaidd yn hyrwyddo ei ffuglen i oedolion.[1]

Magwraeth gan ei nain[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ar 22 Ebrill 1923; bu farw yn Brooklyn.

Daeth ei mam, Elsie De Sola, o Ciwba, ac roedd yn awdur sgriptiau; ysgrifennodd ei thad, Paul Hervey Fox, hefyd sgriptiau a dysgodd Saesneg. Ar ôl iddo ysgaru Elsie, cafodd 3 mab a merch gyda'i ail wraig, Mary.

Gwrthododd Elsie De Sola Fox ei merch Paula ar awr yr enedigaeth, a gadawodd hi mewn cartref i blant amddifad. Ond ymwelodd ei mam-gu, mam Candelaria de Sola, yn ysbeidiol, pan oedd yn Ninas Efrog, ei hachub a chafodd ei symud o gwmpas Florida, Ciwba a'r Unol Daleithiau. Nid oedd yn gallu darparu cartref iddi'i hun, oherwydd ei thlodi, felly rhoddodd Candelaria y baban i'r Parchedig Elwood Corning a'i fam fregus yn Balmville, Efrog Newydd.[2][3][4][5][6]

Priododd Martin Greenberg ac mae Linda Carroll yn blentyn iddi.

Y llenor[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Slave Dancer.

Mynychodd Fox Brifysgol Columbia a phriododd Richard Sigerson, i ddechrau, a chawsant ddau fab. Yn ddiweddarach priododd y beirniad llenyddol a'r cyfieithydd Martin Greenberg, a gweithiodd am flynyddoedd fel athrawes a thiwtor ar gyfer plant bregus. Dim ond yn ei 40au y sgwennodd ei nofel gyntaf, Poor George, stori am athro ysgol sinigaidd sy'n dod o hyd i bwrpas mewn bywyd wrth fentora person ifanc yn ei arddegau.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Newbery (1974), Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Zilveren Griffel (1976), Gwobr Hans Christian Andersen (1978) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Edemariam, Aida (21 Mehefin 2003). "A qualified optimist". The Guardian. Cyrchwyd 23 Mehefin 2011.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11903324d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11903324d. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. http://web.archive.org/web/20160401160937/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/paula-fox. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". ffeil awdurdod y BnF. "Paula Fox".
  5. Dyddiad marw: https://www.nytimes.com/2017/03/03/books/paula-fox-dead.html?_r=1. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Paula Fox". ffeil awdurdod y BnF.
  6. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014 http://web.archive.org/web/20160401160937/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/paula-fox.