Paul J. Crutzen
Paul J. Crutzen | |
---|---|
Paul J. Crutzen ym Mhrifysgol Helsinki yn 2010. | |
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1933 Amsterdam |
Bu farw | 28 Ionawr 2021 Mainz |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, yr Almaen |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cemegydd, peiriannydd, academydd, hinsoddegydd, gweinyddwr academig, meteorolegydd, ymchwilydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Cemeg Nobel, Gwobr Tyler am Cyflawniad Amgylcheddol, Volvo Environment Prize, Alexander von Humboldt Fellow, Max Planck Research Award, Leo Szilard Lectureship Award, Cadlywydd Urdd Llew yr Iseldiroedd, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, Honorary doctor of the University of Liège, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Humboldt Prize, Fellow of the American Geophysical Union, Medal Aur Lomonosov, honorary doctor of Ca' Foscari University of Venice, German Environmental Prize, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Q117250955, honorary doctorate from Joseph Fourier University |
Meteorolegydd a chemegydd Iseldiraidd oedd Paul Jozef Crutzen (3 Rhagfyr 1933 – 28 Ionawr 2021)[1] a enillodd Wobr Cemeg Nobel ym 1995, gyda Mario J. Molina a F. Sherwood Rowland, "am eu gwaith mewn cemeg atmosfferig, yn arbennig yn ymwneud â ffurfiad a dadelfeniad osôn".[2] Mae hefyd yn nodedig am boblogeiddio'r enw "anthroposen" am yr epoc daearegol cyfoes.
Ganed yn Amsterdam. O 1951 i 1954 cafodd ei hyfforddi'n beiriannydd sifil, a gwasanaethodd yn y lluoedd arfog o 1954 a 1958 a gweithiodd hefyd i swyddfa bontydd Amsterdam. Ym 1958 ymgeisiodd Crutzen am swydd rhaglennu cyfrifiaduron yn adran meteoroleg Coleg Stockholm (a ddaeth yn brifysgol ym 1960), ac yno cychwynnodd ar ei astudiaethau. Ym 1963 derbyniodd ei radd meistr mewn mathemateg, ystadegaeth, a meteoroleg o Brifysgol Stockholm. Enillodd ei ddoethuriaeth mewn meteoroleg ym 1968 a'i ddoethuriaeth athronyddol, y radd uchaf yng nghyfundrefn academaidd Sweden, ym 1973.[3]
Ym 1970 canfu bod cyfansoddion nitrogen ocsid yn gallu dadelfennu osôn, y nwy sydd yn amsugno ymbelydredd uwchfioled yr haul yn yr haen osôn, un o haenau uchaf y stratosffer yn atmosffer y Ddaear. Gweithiodd yn gyfarwyddwr ymchwil i Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Atmosfferig yn Boulder, Colorado, Unol Daleithiau America, o 1977 i 1980, a mewn swydd debyg i Sefydliad Cemeg Max Planck ym Mainz, yr Almaen, o 1980 i 2000. Bu farw ym Mainz yn 87 oed.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Paul Crutzen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Chwefror 2021.
- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Chemistry 1995", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 8 Chwefror 2021.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) John Schwartz, "Paul Crutzen, Nobel Laureate Who Fought Climate Change, Dies at 87", The New York Times (4 Chwefror 2021). Adalwyd ar 8 Chwefror 2021.