Patrick Geddes
| Patrick Geddes | |
|---|---|
Patrick Geddes ym 1931 | |
| Ganwyd | 2 Hydref 1854 Ballater |
| Bu farw | 17 Ebrill 1932 Montpellier |
| Man preswyl | Yr Alban |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Ffrainc |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | cynlluniwr trefol, cymdeithasegydd, ecolegydd, botanegydd, dylunydd gwyddonol, athronydd, biolegydd, daearyddwr, dylunydd dodrefn |
| Blodeuodd | 1896 |
| Cyflogwr |
|
| Prif ddylanwad | Thomas Henry Huxley |
| Mudiad | Dadeni'r Alban |
| Priod | Anna Geddes |
| Plant | Arthur Geddes, Norah Geddes |
| Gwobr/au | Marchog Faglor |
Biolegydd, cymdeithasegydd, a chylluniwr trefol o'r Alban oedd Syr Patrick Geddes (2 Hydref 1854 – 17 Ebrill 1932).
Ganed yn Ballater, Swydd Aberdeen, ac astudiodd fioleg yn Llundain dan Thomas Henry Huxley. Bu'n athro sŵoleg ym Mhrifysgol Caeredin o 1880 i 1888, ac yn athro botaneg yng Ngholeg Prifysgol Dundee o 1888 i 1919. Yn Dundee, cyd-ysgrifennodd y gyfrol The Evolution of Sex (1889) gyda'r naturiaethwr John Arthur Thomson. Roedd ganddo ystod eang o ddiddordebau, a datblygodd athroniaeth ei hun o gynllunio trefol, a geir yn ei lyfrau City Development (1904) a Cities in Evolution (1915). Geddes a wnaeth fathu'r termau conurbation (cytref) ac "yr ail chwyldro diwydiannol" wrth gyfeirio at ddatblygiadau mewn trydan a chemegion.
Ym Mandad Palesteina fe ddyluniodd adeilad Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem (1919) a chynlluniodd ddinas Tel Aviv. Ar daith i Fecsico, dioddefodd Geddes o bwl o ddallineb, a phenderfynodd felly i ganolbwyntio ar gymdeithaseg gan nad oedd modd iddo gynnal ei arbrofion biolegol. Aeth i'r India a bu'n athro astudiaethau dinesig a chymdeithaseg yn Bombay o 1920 i 1923. Symudodd o'r India i Ffrainc a chyfarwyddodd y Coleg Sgotaidd ym Montpellier. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1932, a bu farw y flwyddyn honno ym Montpellier yn 77 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Sir Patrick Geddes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mai 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- P. Boardman, Patrick Geddes: Maker of the Future (1957).
- P. Kitchen, A Most Unsettling Person (1975).
- V. M. Welter, Biopolis: Patrick Geddes and the City of Life (2002).