Patricia Wettig
| Patricia Wettig | |
|---|---|
| Ganwyd | Patricia Anne Wettig 4 Rhagfyr 1951 Cincinnati |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, dramodydd, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, ysgrifennwr |
| Priod | Ken Olin |
| Gwobr/au | Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series |
Awdur a dramodydd Americanaidd yw Patricia Wettig (ganwyd 4 Rhagfyr 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, actor llwyfan, actor teledu actor ffilm ac awdur.[1]
Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Nancy Weston yn y gyfres deledu Thirtysomething (1987–1991), a derbyniodd Wobr Golden Globe a thair Gwobr Primetime Emmy. Ymhlith y gweithiau teledu nodedig eraill mae ei phortread o Caroline Reynolds yn y gyfres ddrama Prison Break (2005-2007) a Holly Harper yn y gyfres ddrama Brothers & Sisters (2006–2011). Serennodd hefyd yn y ffilmiau City Slickers (1991), City Slickers II: The Legend of Curly's Gold (1994), a The Langoliers (1995).[2][3]

Fe'i ganed yn Cincinnati a mynychodd Brifysgol Wesleaidd Ohio, Prifysgol Smith, Massachusetts a Stiwdio William Esper.[4] Ei mam oedd Florence (g. Morlock) ac enw ei thad oedd Clifford Neal Wettig, hyfforddwr pêl-fasged ysgol uwchradd. Mae ganddi dair chwaer: Pam, Phyllis, a Peggy. Cafodd ei magu yn Grove City, Pennsylvania a graddiodd ym 1970. Yn ddiweddarach, derbyniodd Feistr yn y Celfyddydau Cain mewn ysgrifennu dramâu gan Goleg Smith yn 2001. [5][6][7][8]
Personol
[golygu | golygu cod]Mae Wettig yn briod â'r actor a'r cynhyrchydd Ken Olin; mae ganddyn nhw ddau o blant, mab Clifford (g. 1983) a'u merch Roxanne "Roxy" Olin (g. 1985).[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama (1990), Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama (1991), Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series (1988) .
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rol | Notes |
|---|---|---|---|
| 1991 | Guilty by Suspicion | Dorothy Nolan | |
| 1991 | City Slickers | Barbara Robbins | |
| 1993 | Me and Veronica | Veronica | |
| 1994 | City Slickers II: The Legend of Curly's Gold | Barbara Robbins | |
| 1997 | Bongwater | Mom | |
| 1998 | Dancer, Texas Pop. 81 | Mrs. Lusk | |
| 1999 | Nightmare in Big Sky Country | Judge |
Ffilmiau teledu
[golygu | golygu cod]| Year | Title | Role | Notes |
|---|---|---|---|
| 1982 | Parole | Maureen | |
| 1988 | Police Story: Cop Killer | Dede Mandell | |
| 1991 | Silent Motive | Laura Bardell | |
| 1992 | Taking Back My Life: The Nancy Ziegenmeyer Story | Nancy Ziegenmeyer | |
| 1994 | Parallel Lives | Rebecca Ferguson Stone | |
| 1995 | Nothing But the Truth | Jill Ross | |
| 1995 | Kansas | Virginia 'Giny' Mae Farley | |
| 2005 | Lackawanna Blues | Laura's Mother | |
| 2010 | The 19th Wife | BeckyLyn |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ "GHC417.html". Wettig.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-04. Cyrchwyd 2013-06-18. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ Alma mater: http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
- ↑ Galwedigaeth: http://esperstudio.com/alumni-of-esper-studio/. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. dyddiad cyrchiad: 5 Chwefror 2017.
- ↑ Wettig, Patricia. F2M. Dramatist Playservice. 2012. ISBN 9780822226338
- ↑ Hetrick, Adam. “Patricia Wettig's F2M, With Keira Keeley, Ken Olin, Begins Powerhouse Run Mehefin 29”. Playbill. 29 Mehefin 2011 [1]