Parti Pyjamas Mwyaf y Byd!

Oddi ar Wicipedia
Cylch meithrin Abergele yn eu pyjamas!
Angharad Mair
Megan Tywydd a'r plant
Criw Ysgol Sul Moreia, Llanfair Caereinion
Garmon yn ei byjamas!
Ein hoff lun o'r Parti Pyjamas! Dyma blant cylch meithrin Treffynnon
Ein hoff lun o'r Parti Pyjamas! Dyma blant cylch meithrin Treffynnon

Cynhaliwyd Parti Pyjamas Mwya'r Byd ar Ddydd Mawrth, 9 Mai 2017 ledled Cymru, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth pobl o grwpiau gofal ac addysg plant bach.[1] Trefnwyd y digwyddiad gan y Mudiad Meithrin er mwyn tynnu sylw pobl at weithgaredd yr holl grwpiau sy'n cynnig gofal ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg: 'Cymraeg i Blant', y cylchoedd meithrin a chylchoedd 'Ti a Fi'.[2] Yn Nhachwedd 2016, cyhoeddodd y Mudiad Meithrin gynlluniau i geisio torri record y byd.[3]

Ceisiwyd hybu pobl i wisgo pyjamas ar Ddydd Mawrth, y 9fed o Fai er mwyn mynychu'r cylch, y feithrinfa neu'r lleoliad sy'n cefnogi!

Talodd pawb a oedd yn cymryd rhan £1 am y fraint, gyda'r arian i'w gadw gan y cylch meithrin fel rhan o'u hymdrechion elusennol.

Trwy gael gweithgaredd hwyliog - a cheisio torri record byd ar yr un pryd - roedd yn gyfrwng i dynnu sylw pobl at weithgaredd y cylchoedd a hefyd i danlinellu pwysigrwydd dysgu trwy chwarae, darllen a chysgu i fywyd y plentyn yn y blynyddoedd cynnar.

Roedd y parti yn rhan o ddathliadau'r Mudiad yn 45 mlwydd oed.

Criw Ysgol Gymraeg Llundain yn eu pyjamas!

Gobeithiai'r trefnyddion y byddid yn chwalu'r record byd presennol, sef 2,004 o unigolion yn eu pyjamas! Ond nodwyd hefyd mai'r digwyddiadau lu ar lawr gwlad sy'n bwysig.

Wedi cyfri'r holl ddata a dderbyniwyd gan gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, grwpiau 'Cymraeg i Blant, meithrinfeydd dydd, swyddfeydd, ysgolion, unigolion ayyb, roedd 8651 wedi cymryd rhan yn y digwyddiad!

Gofal plant ac addysg Gymraeg[golygu | golygu cod]

Gyda'r pwyslais cynyddol ar "greu" siaradwyr newydd er mwyn cyrraedd at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, targed a gefnogir gan Mudiad Meithrin, cydnabyddir pwysigrwydd lleoliadau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.[4] Mae cynnal 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd' yn gyfrwng hwyliog i gylchoedd meithrin, i gylchoedd Ti a Fi, i feithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg ac i grwpiau 'Cymraeg i Blant' dynnu sylw at weithgaredd llawr gwlad. Yn ddiweddar ar 18.05.17, cyhoeddwyd adroddiad yn sgil ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (dan gadeiryddiaeth Bethan Jenkins AC yn y Cynulluad Cenedlaethol) i'r strategaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chydnabuwyd pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i'r weledigaeth honno: http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16224

Themau[golygu | golygu cod]

Er mai prif nodwedd y digwyddiad yw cael hwyl, mae elfen fwy ddifrifol i'r gweithgaredd sef:

  1. Dysgu trwy Chwarae
  2. Darllen a
  3. Chysgu.

Dywedir fod y tri pheth hyn yn cyfrannu'n drwm at les y plentyn yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Mae "dysgu trwy chwarae" yn greiddiol i addysgeg y Cyfnod Sylfaen ac felly'n ganolog i drefn gweithgaredd yn y cylchoedd meithrin, gan fod nifer ohonynt yn ddarparwyr addysg i blant tair a phedair mlwydd oed. Anogir ein cylchoedd i gynnal gweithgaredd miri mawr ("messy play") neu chwarae heuristaidd trwy greu tywod lleuad a gosod gwahanol wrthrychau yn y sypiau tywod. Caiff y plant hwyl yn chwilio am y gwahanol wrthrychau.

Tanlinellir pwysigrwydd darllen i blant a babis ifanc iawn fel y tystia ymgyrchoedd magu plant Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Mudiad Meithrin. Mae 'amser stori', cynllun benthyg llyfr, trefnu ymweliad i'r llyfrgell a chreu llyfrau oll yn agweddau pwysig o weithgaredd cylchoedd metihrin.

Ceir tystiolaeth hefyd fod cael noson dda o gwsg (a chwsg yn ystod y dydd yn ogystal) yn hynod bwysig i les a ffyniant y plentyn bach. Mae nifer o gylchoedd metihrin yn darparu ardaloedd tawel i blant gael gorffwys neu gysgu'n ystod y dydd. Mae cynllun trechu tlodi Llywodraeth Cymru, 'Dechrau'n Deg', yn rhoi pwyslais mawr ar hyn.

Dewin

Felly er fod y slogan arwynebol Parti Pyjamas Mwyaf y Byd' yn ymddangos yn fympwyol, mae elfen fwy difrifol yn perthyn i'r ymgyrch.

Cefnogaeth[golygu | golygu cod]

Cefnogwyd y fenter gan brif bartner sef ffatri pyjamas Aykroyd's yn y Bala. Creodd y cwmni bâr o byjamas i 'Dewin' (cymeriad hoffus y Mudiad) yn dilyn cystadleuaeth ymysg plant y cylchoedd. Enillydd y gystadleuaeth oedd merch 4 oed, Bethan, o gylch meithrin Terrig, y Treuddyn, Sir y Fflint. Yn atodol, derbyniwyd cefnogaeth gan gronfa 'Dathlu' y gronfa Loteri Fawr er mwyn hyrwyddo a hybu'r digwyddiad yn y cyfnod yn arwain at y 9fed o Fai.

Roedd pecyn gweithgareddau ar gael i bob cylch yn cynnwys caneuon, gweithgaredd Miri Mawr (neu messy play) a stori a chafwyd ffilm o 'Ben Dant', cymeriad poblogaidd 'Cyw', yn darllen stori "Môrladron mewn Pyjamas". Darparwyd cefnogaeth i gylchoedd ac i rieni ganu caneuon addas e.e. 'Heno, Heno hen blant bach...' ayyb

Cefnogwyd y digwyddiad gan rai o sêr y cyfryngau: Catrin a Huw (cyflwynwyr 'Cyw') a gyflwynodd 'Cyw' ar y dydd yn eu pyjamas, Caryl Roberts o Fferm Ffactor, Mari Løvgreen, Al Huws (Radio Cymru) a gyflwynodd ei raglen mewn 'onesie', Shân Cothi, Tommo, Meinir 'Ffermio', Ifan Jones Evans, Martyn Geraint, cast Pobol y Cwm, rhai o gast Rownd a Rownd, cyflwynwyr 'Tag' (Stwnsh S4C), cyflwynwyr Heno a Prynhawn Da, Carys 'Ffa-la-la', Anni Llŷn a mwy!

Cefnogodd Mistar Urdd, Comisiynydd Plant Cymru (Sally Holland) a'r Comisiynydd Iaith (Meri Huws) y digwyddiad hefyd. Bu nifer o Aelodau Cynulliad Cymru yn ddigon dewr i gael tynnu'i lluniau gyda Dewin er mwyn dangos eu cefnogaeth!

Cafwyd cystadleuaeth ymysg myfyrwyr Cymru i gyfansoddi cerdd ar gyfer yr achlysur. Caryl Bryn o Brifysgol Bangor oedd yn fuddugol gyda'i cherdd a chyfansoddodd Anni Llŷn gerdd i'r digwyddiad yn rhinwedd ei rôl fel Bardd Plant Cymru hefyd.

Dyma rai o'r sefydliadau sy'n cefnogi 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd': Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyw (S4C), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru (MIC a'r mentrau lleol), Merched y Wawr a'r Urdd. Mae nifer o ysgolion cynradd, swyddfeydd a llyfrgelloedd hefyd yn cefnogi.

Creu stori[golygu | golygu cod]

Bu cylch meithrin Sarnau a Llandderfel yn brysur yn creu stori ar thema pyjamas i gyd-fynd efo'r achlysur a chyhoeddwyd hwnnw yng nghylchgrawn Wcw, a hefyd mewn cylchgrawn arbennig i nodi cynnal Gwyl Dewin a Doti (yn ystod mis Mehefin 2017).

Gwobr[golygu | golygu cod]

Ar 8 Chwefror 2018 enillodd Mudiad Meithrin wobr yn seremoni wobrwyo Trydydd Sector Cymru a drefnir gan Gyngor Gwirfoddol Cymru. Roedd y wobr yn y categori "codi arian yn arloesol" ac yn benodol yn cyfeirio at yr holl weithgarwch ledled y wlad ar ddiwrnod 'Parti Pyjamas Mwyaf y Byd'! Wrth dderbyn y wobr, cyfeiriodd Dr Gwenllian Lansdown Davies (Prif Weithredwr y Mudiad) at holl rialtwch a hwyl y diwrnod gan nodi mai'r ddau brif fwriad oedd galluogi'r Cylchoedd Meithrin / Ti a Fi i godi arian ond i wneud hynny tra'n cael hwyl gan ar yr un pryd hyrwyddo gofal plant ac addysg Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]