Stadiwm Parken

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Parken Stadium)
Telia Parken
Stadiwm Categori 4 UEFA
LleoliadPer Henrik Lings Allé 2, DK-2100 Østerbro, Copenhagen, Denmarc
Cyfesurynnau55°42′08.89″N 12°34′19.93″E / 55.7024694°N 12.5722028°E / 55.7024694; 12.5722028Cyfesurynnau: 55°42′08.89″N 12°34′19.93″E / 55.7024694°N 12.5722028°E / 55.7024694; 12.5722028
PerchennogParken Sport & Entertainment
GweithredwrF.C. København & Stadion
Eisteddleoedd38,065 (seddi-oll)[1]
Cynulleidfa;(uchafswm)60,000 (HIStory World Tour, 14 Awst 1997)
Maint y maes105 x 68 m (114.8 x 74.3 yds)
ArwynebeddPorfa
Cost codi
Tywarchen gyntaf1990
Agorwyd9 Medi 1992
Adfer2001 a 2009
Costau adeiladuDKK 640 million
(85.3 million)
Pensaer/iGert Andersson
Tenants
Tîm pêl-droed cenedlaethol Denmarc (1992–presenol)
F.C. København (1992–presenol)

Stadiwm pêl-droed yw'r Parken Stadium yn Copenhagen, priffinas Denmarc. Ei henw swyddogol gyfredol yw Telia Parken yn sgil nawdd. Dyma stadiwm genedlaethol tîm pêl-droed Denmarc a chartref clwb pê-droed F.C. København. Cwblhawyd y stadiwm ar ei newydd wedd, gyda tho sy'n gallu agor a chau yn 1992. Mae wedi ei lleoli yn Fælledparken yn ardal Østerbro. Yn ogystal â phêl-droed, cyhelir amryw o ddigwyddiadau a chyngherddau eraill yno. Ystyr parken yw 'parc'. Perchnogion y stadiwm yw Parken Sport & Entertainment.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd hanes y stadiwm ar 25 Mai 1911 pan sefydlwyd maes chwarae'r Københavns Idrætspark a ddaeth, maes o law, yn Stadiwm Parken. Yn yr agoriad, chwaraeodd tîm pêl-droed Kjøbenhavns Boldklub a B.93 Copenhagen yn erbyn Sheffield Wednesday FC (2:3) o Loegr. Roedd yn gwasanaethu hyd yn oed y tîm pêl-droed cenedlaethol fel lleoliad. Rhwng 1955 a 1990 cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Denmarc yn Idrætspark. Roedd ganddo gapasiti o hyd at 52,377 o dorf; gan mwyaf yn ystafell sefyll y stadiwm. Cynhaliwyd y gêm ryngwladol olaf (a oedd yn gymwys ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop ym 1992) ar 14 Tachwedd 1990 rhwng Denmarc ac Iwgoslafia (0: 2) yn y stadiwm. Wedi hynny, cafodd ei ddymchwel ar gyfer yr adeilad newydd.

Stadiwm Parken[golygu | golygu cod]

Y stadiwm o'r awyr Ailadeiladu'r D-Tribune
Süd-Tribüne yn Parken
Ochr ogleddol y Parken

Ar 9 Medi 1992, agorwyd y stadiwm newydd, Parken, gyda gêm gyfeillgar rhwng Denmarc a'r Almaen (1: 2). Mae'r stadiwm yn cynnig 38,065 o seddau ar ei phedwar eisteddle unigol.[2] Ar gyfer cyngherddau, mae hyd at 55,000 o leoedd ar gael, fel, er enghraifft, yng nghyngerdd gan Justin Timberlake ar 23 Fehefin 2007.

Addaswyd ar y stadiwm gan adeiladu to o decstil plygadwy a hynny mewn amser ar gyfer Cystadleuaeth Eurovision 2001 ar 12 Mai. Mae'r tectil i'r to yn cynnwys deuddeg clustog bilen decstilau, pob un yn 92 × 7 metr. Mae'r clustogau bilen ar adeiladwaith dur yn cael eu chwyddo â chwythwyr arbennig pan fydd y to ar gau. Mae ganddi arwynebedd o 8000 metr sgwâr. O fewn 30 munud, gellir agor neu gau'r to ac mae'r tu mewn wedi'i wresogi a'i aerdymheru'n llawn. Mae'r cae chwarae yn cynnwys tyweirch naturiol gyda ffibrau glaswellt artiffisial wedi'u plethu, er mwyn gallu gwrthsefyll deunydd a thrai cryf yn sgil y gwahanol ddigwyddiadau.[3]

Yn 2009, derbyniodd y stadiwm stondin gogleddol newydd gyda 4,000 o seddi VIP. Ar ôl dymchwel yr hen eisteddle, adeiladwyd wal allanol dros dro fel y gellid parhau i ddefnyddio'r stadiwm. Gellir symud rhan isaf y llwyfan yn ôl ac ymlaen er mwyn creu mwy o ofod mewnol.

Mae gan y stadiwm neuaddau mawr y gellir eu llogi ar gyfer cynadleddau, gwleddoedd neu ddathliadau eraill. Mae siop gefnogwyr swyddogol FC Copenhagen FC København MegaStore hefyd yn y stadiwm.[4]

Nawdd Telia[golygu | golygu cod]

Ers mis Gorffennaf 2014, mae'r stadiwm wedi'i henwi ar ôl y noddwr Telia, cwmni telagyfathrebu sydd wedi'i leoli yn Stockholm, Sweden.[5]

Canolfan Adloniant[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â chynnal gemau pêl-droed, mae'r stadiwm yn cynnal cystadlaetau paffio a ralio beiciau modur 'speedway'.

Cynhelir hefyd cyngerddau pop mawr gan gynnwys gan artistiaid adanabyddus megis: Plácido Domingo, Whitney Houston, Pink Floyd, The Rolling Stones, Bryan Adams, Tina Turner, Michael Jackson, Rod Stewart, Bruce Springsteen, U2, Celine Dion, Depeche Mode, Robbie Williams, Paul McCartney, Santana, Metallica, Simon and Garfunkel, George Michael, Justin Timberlake, REM, Eric Clapton, Madonna, AC/DC, Fleetwood Mac, Britney Spears, Muse, Tiësto, Prince.

Rhai Uchafbwyntiau'r Stadiwm[golygu | golygu cod]

Ymysg rhai o uchafbwyntiau'r Stadiwm mae:

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.uefa.com/MultimediaFiles/Download/FirstDiv/uefaorg/Publications/01/67/03/93/1670393_DOWNLOAD.pdf
  2. http://teliaparken.dk
  3. dessosports.com: Archifwyd [Date missing], at www.dessosports.com Error: unknown archive URL
  4. parken.dk: Archifwyd [Date missing], at parken.dk Error: unknown archive URL (Daneg)
  5. Nodyn:Internetquelle