Neidio i'r cynnwys

Parciau Brenhinol

Oddi ar Wicipedia
Y Parciau Brenhinol
Mathasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr

Mae'r Parciau Brenhinol yn dir yn Llundain a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan brenhin Lloegr a'i deulu ar gyfer hamdden, hela yn bennaf.[1] Mae’r parciau’n aros yn eiddo i’r Goron, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn gyfrifol amdanynt. Maen nhw'n cael eu rheoli gan The Royal Parks, elusen sy'n rheoli hefyd ardaloedd eraill o barcdir yn Llundain. Crëwyd yr elusen fel cwmni cyfyngedig trwy warant ym Mawrth 2017 ac fe’i lansiwyd yn swyddogol yng Ngorffennaf 2017.

Yn wreiddiol roedd y brenin a'i deulu'n defnyddio'r parciau fel tiroedd hela. Yn y 16g amgaeodd Harri VIII diroedd i'r gogledd o Balas Whitehall ar gyfer yr hyn sydd bellach yn St James's Park a'r Green Park. Cymerodd hefyd o Abaty Westminster y tir a ddaeth yn Hyde Park a Gerddi Kensington. Gan ddechrau gyda Hyde Park, a agorwyd i'r cyhoedd gan Charles II ym 1673, dros y blynyddoedd mae'r cyhoedd wedi cael mynediad rhydd i'r mannau hyn.

Mae'r wyth parc brenhinol fel a ganlyn (yn ôl y bwrdeistrefi yn Llundain y maent yn sefyll ynddynt).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hazel Thurston, Royal Parks for the People: London's Ten (Newton Abbot: David & Charles, 1974)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]