Parc gwledig y Mwynglawdd
Jump to navigation
Jump to search
Mae Parc gwledig y Mwynglawdd yn un o warchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r safle yn hen chwarel calchfaen ar Afon Clywedog yn Y Mwynglawdd, Wrecsam. Mae’r parc yn fan cychwyn i lwybr Dyffryn Clywedog sydd yn dilyn cwrs yr afon heibio Pwllau plwm y Mwynglawdd i lawr at Gwaith Haearn y Bers ac ymlaen at Erddig.
Mae’r chwarel wedi bod yn gysylltiedig ag echdynnu calchfaen ers dros 200 mlynedd.
Erbyn hyn gwelir rhywogaethau prin a rhai dan fygythiad yno, yn cynnwys ystlum pedol lleiaf, ystlum hirglustac ystlum Natterer, yn ogystal ag adar sy’n trigo ar glogwyni fel hebog tramor a chigfran, a hefyd planhigion megis coedwyrdd crynddaill, crwynllys chwerw a lloer-redynen[1].