Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera
Jump to navigation
Jump to search
Mae Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera yn warchodfa natur ar Ynysoedd Balearig, sydd yn cynnwys nifer fawr o bantiau heli ar Ynys Eivissa ac Ynys Formentera ac hefyd yn cynnwys y môr rhwng yr ynysoedd. Mae’r parc yn cynnwys 2752.5 hectar o dir a 14028 hectar y môr.[1]
Y môr[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwelir y planhigyn Posidonia yn y môr rhwng Eivissa a Formentera. Mae Posidonia yn gyfrifol am glirdeb y dŵr, yn gwarchod y traethau rhag erydiad ac yn rhoi lloches i greaduriaid y môr. Mae’r parc yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1999.[2]
Y tir[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae mwyafrif planhigion yr ynysoedd yn bresennol yn y parc natural. Mae llwyni o binwydd a meryw yn gyffredin ar Formentera, a hefyd Fenigl y môr a phlanhigion y twyni tywod symudol.[3]