Parc Fictoria, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Parc Fictoria, Caerdydd
Mathparc dinesig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.485°N 3.219°W Edit this on Wikidata
Map

Parc cyhoeddus yn ardal Treganna, Caerdydd (ger Trelái) ydy Parc Fictoria (Saesneg: Victoria Park). Fe'i crewyd i ddathlu jiwbilî ddeimwnt Brenhines Fictoria ym 1897.

Mae gan y parc rhestredig gradd 2 ardal o tua 20 erw. Mae'n cynnwys lawntiau, coed aeddfed, borderi blodau, cyrtiau tenis a lawnt fowlio. Cafodd yr hen bwll ymdrochi ei ddisodli yn 2016 gan y Pad Sblasio, sy'n cynnwys 33 o nodweddion difyr i blant.

Yn wreiddiol roedd cynllun i ddatblygu'r parc fel gardd swolegol, ac o tua 1900 i'r 1950au roedd casgliad bychan o anifeiliaid ac adar yn cael ei gadw yno. Daeth y parc enwog am Billy'r Morlo, morlo llwyd sy'n byw ym mhwll y parc o 1912 i 1939 ar ôl cael ei ddal ym Môr Hafren gan treill-long o Gaerdydd;[1] mae cerflun Billy gan David Petersen yn y parc heddiw.

Roedd llwyfan band haearn a osodwyd yn wreiddiol yn Chwefror 1897; cafodd replica ei osod ym 1996. Mae canopi ffynnon haearn a gyflwynwyd gan I. Samuel Ysw. ym 1908; adferwyd y canopi a chafodd ei symud i'w safle presennol ym 1986.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Croeso 'nôl i Billy'r Morlo" (BBC); adalwyd 4 Awst 2017.
  2. Gwefan Cyngor Caerdydd[dolen marw]; adalwyd 4 Awst 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato