Papur Pawb (Tal-y-bont)

Oddi ar Wicipedia

Ar gyfer yr hen bapur newydd Cymreig, gweler Papur Pawb.

Clawr Papur Pawb, Tachwedd 2007


Papur bro misol o ardal fwyaf gogleddol Ceredigion yw Papur Pawb. Mae’n gwasanaethu pentrefi Tal-y-bont, Bont-goch, Tre Taliesin, Tre’r-ddôl ac Eglwys-fach. Credir mai dyma’r papur bro sy’n gwasanaethu’r ardal leiaf o ran poblogaeth o holl bapurau bro Cymru.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Hydref 1974 gyda’r sylfaenwyr yn honni mae dyma oedd papur bro cyntaf Cymru gan fod papurau tebyg yn cael eu dosbarthu am ddim ymhlith sefydliadau Cymraeg eu hiaith yn unig. Credent yn gryf yn yr egwyddor bod gwir bapur bro yn gwasanaethu’r gymuned gyfan a dylid ei werthu mewn siopau lleol. Rhoddwyd gair o esboniad yn y rhifyn cyntaf am swyddogaeth Papur Pawb, sef:

‘anelu i adlewyrchu pob agwedd ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol y cylch mewn gair ac mewn llun. Bwriadwn i bawb feddwl am y papur fel gwasanaeth sy’n perthyn i’r gymdeithas gyfan, megis neuadd bentref neu ysgol, ac nid rhywbeth sy’n perthyn i grŵp bychan o fewn yr ardal yn unig.’

Mae Papur Pawb yn ymddangos deg mis y flwyddyn ac fe’i hargreffir yn Y Lolfa, Tal-y-bont. Pum ceiniog oedd pris y rhifyn cyntaf ac mae’r pris yn parhau yn isel iawn ar 50 ceiniog y copi.

Y golygydd cyntaf oedd Gwilym Huws (1974-1980) a’i olynydd oedd Gwyn Jenkins (1980-1985). Wedi hynny golygwyd y papur gan dimau o olygyddion dan ofal golygydd cyffredinol. Mae dros 40 o drigolion y gymuned yn cynorthwyo i gynhyrchu’r papur.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn rhannol mewn lliw yn 2008 a chyhoeddir atodiadau lliw yn cynnwys lluniau lliw o’r sioeau a gwyliau lleol yn flynyddol yn rhifyn Medi.

Mae gwefan Papur Pawb yn cynnwys y rhifyn cyfredol a dull o glywed y cynnwys drwy feddalwedd Readspeaker. Ceir yno hefyd rhai ôl-rifynnau a lluniau o archif y papur.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.