Pan Oedd y Byd yn Fach
| Cymru | |
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 2015 |
| Awdur | Sian Summers |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 2015 |
| Cysylltir gyda | Theatr Genedlaethol Cymru |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Gymraeg gan Sian Summers a lwyfannwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cyd-weithrediad â Neuadd Gwyn yn 2015, yw Pan Oedd y Byd yn Fach. Streic y Glowyr yn ystod Gaeaf 1984 yw cefndir y ddrama wrth i griw o fechgyn ddod at ei gilydd i hel atgofion am eu plentyndod. Disgrifiwyd y ddrama fel un "am frawdgarwch, brad a thyfu’n ddyn."[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Alun
- Garyn
- Dyfed
- Billy
- Kevin
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama yn cychwyn pan fo pum ffrind gwrywaidd ynghanol afiaith ieuenctid, chwerwder a thrais streic y Glowyr yn y Cymoedd. Ceir adlais o'r diwedd trasig ar gychwyn y ddrama, gyda'r ail-ran yn olrhain hanes y criw wedi mynd yn hŷn.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2015 o dan gyfarwyddyd Aled Pedrick; Sain a Cherddoriaeth : Dyfan Jones; cast:
- Alun - Dyfed Cynan
- Garyn - Sion Ifan
- Dyfed - Ceri Murphy
- Billy - Berwyn Pearce
- Kevin - Gareth Pierce
Bu'r cynyrchiadau ar daith rhwng 14 Mai – 20 Mehefin, 2015.[1]
"Dwi’n falch i ddweud, fod ail-hanner y ddrama yn cynnig yr hyn dwi wedi dymuno’i weld ers tro gan y Theatr Genedlaethol," oedd sylw Lowri Haf Cooke wrth adolygu'r ddrama yn 2015, sef "ymateb i brofiad dynion yn y Gymru sydd ohoni. Mae’r ddrama [...] yn canolbwyntio ar bum ffrind o Gwm Nedd, llanciau ifanc yn eu harddegau hwyr, oedd yn fechgyn i löwyr adeg Streic 1984-1985".[2]
"Er nad yw’n sgript mor gyhyrog a Garw gan Sion Eirian, mae drama Siân Summers yn un onest a theimladwy, ac mae’r dafodiaith leol yn tasgu oddi ar y llwyfan. Ceir cyfarwyddo crefftus gan Aled Pedrick, sy’n fab i gyn-löwr o Gwm Tawe, a brofodd effaith y streic ar ei deulu a’i gymuned."[2]
Cafodd adolygydd theatr Y Cymro ei blesio'n "fawr gan bortreadau’r pum actor, yn enwedig angerdd Gareth Pierce a Siôn Ifan, a braf gweld wynebau newydd imi Dyfed Cynan a Berwyn Pearce yn cael lle ar y llwyfan Cenedlaethol. Heb os, mae’r seiliau yma am chwip o gynhyrchiad," ychwanegodd Paul Griffiths[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Pan Oedd y Byd yn Fach". theatr.cymru. Cyrchwyd 2026-06-26.
- 1 2 lowrihafcooke (2015-05-18). "Adolygiad Theatr: Pan Oedd y Byd yn Fach (Theatr Genedlaethol Cymru)". Lowri Haf Cooke. Cyrchwyd 2026-06-26.
- ↑ "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-26.