Palestine Action
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Dechrau/Sefydlu | Gorffennaf 2020 ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://www.palestineaction.org/ ![]() |
![]() |
Mae Palestine Action yn fudiad di-drais o blaid Palesteina. Maent yn cynnal protestiadau yn erbyn diwydiant arfau'r Deyrnas Unedig, gan weithredu'n uniongyrchol yn erbyn eiddo ar adegau. Nid yw'r mudiad wedi ymwneud â thrais yn erbyn pobl. Un targed a gafodd gryn sylw'r cyfryngau oedd ffatrïoedd y gwneuthurwr arfau Israelaidd Elbit Systems yn Lloegr ym Mehefin 2025. Yn eu hymgyrchoedd, mae Palestine Action wedi defnyddio protestiadau, meddiannu eiddo, dinistrio eiddo a fandaliaeth, sydd weithiau wedi arwain at arestio aelodau.
Ym Mehefin 2025, cyhoeddodd Swyddfa Gartref Lloegr ei bod yn bwriadu dynodi'r grŵp yn sefydliad terfysgol gwaharddedig ar ôl i'r grŵp dorri i mewn i RAF Brize Norton, gan ddifrodi dwy awyren ail-lenwi tanwydd Airbus A330 MRTT trwy chwistrellu paent arnyn nhw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Palestine Action ar 30 Gorffennaf 2020 pan dorrodd ymgyrchwyr i mewn i bencadlys Elbit Systems yn Llundain a'i chwistrellu â phaent.[1] Y cyd-sylfaenwyr yw Huda Ammori, y mae ei thad yn Balesteiniad, a Richard Barnard, ymgyrchydd asgell chwith.[2]
Ymateb
[golygu | golygu cod]Mae'r penderfyniad i geisio gorchymyn gwahardd wedi bod yn destun dadl yn y Deyrnas Unedig. Mewn ymateb i ddatganiad yr Ysgrifennydd Cartref gerbron Tŷ'r Cyffredin, galwodd cyfreithwyr Palestine Action y cynnig yn "anghyfreithlon, peryglus ac heb ei gynllunio'n iawn".[3] Yn yr un modd, mynegodd grwpiau hawliau dynol Amnesty International[4] a Liberty [5] bryder ynghylch y cynsail ac nad oedd y Ddeddf Derfysgaeth yn briodol i Palestine action.[6][7]
Dangosodd dogfennau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a gafwyd gan Palestine Action fod swyddogion llysgenhadaeth Israel wedi gofyn i Swyddfa Twrnai Cyffredinol y Deyrnas Unedig (AGO) i ymyrryd mewn achosion yn ymwneud ag erlyn protestwyr y Deyrnas Unedig. Newidiwyd (sensorwyd) y dogfennau gan ddweud y byddai eu datgelu "yn debygol o niweidio perthynas y Deyrnas Unedig ag Israel". Yn ei ymateb i swyddogion y llysgenhadaeth, soniodd cyfarwyddwr cyffredinol yr AGO na allai protestwyr a gyhuddwyd o ddifrod troseddol "sylweddol" ddefnyddio amddiffyniad hawliau dynol fel amddiffyniad.[8]
Ym Mai 2024, adroddwyd y byddai adroddiad gan gynghorydd y llywodraeth ar drais gwleidyddol, yr Arglwydd Walney, yn argymell gwahardd "grwpiau protest eithafol", gan gynnwys Palestine Action er o dan gategori newydd sy'n wahanol i sefydliadau terfysgol gwaharddedig. Gallai sancsiynau posibl a osodir ar y grŵp gyfyngu ar ei allu i godi arian a'i hawl i ymgynnull.[9] Credir gan lawer fod defnyddio deddfau gwrth-derfysgaeth (a grewyd yn erbyn grwpiau eithafol fel ISIS) yn erbyn grwpiau di-drais fel Palestine action yn hollol anghywir a'r hawl i brotestion wedi mynd i'r gwynt.
Rhoddodd dogfennau a gafwyd gan Palestine Action drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fanylion cyfarfodydd gan lywodraeth Lloegr i “dawelu meddwl” Elbit Systems. Dywedodd Palestine Action fod y dogfennau'n dangos bod y Swyddfa Gartref wedi ceisio rhoi pwysau ar yr heddlu ac erlynwyr i gosbi aelodau Palestine Action yn galed, pan fyddant yn targedu Elbit Systems.[10] Mae hyn yn dangos fod Llywodraeth San Steffan yn fwy parod i wrando ar Lywodraeth Israel nag ydyw ar ei dinasyddion ei hun.
Ym Mehefin 2025, cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bwriad i wahardd y grŵp ar sail gwrthderfysgaeth oherwydd iddynt fandalieiddio awyrennau.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ PA (2020-07-30). "The Launch of Palestine Action". Palestine Action (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-12.
- ↑ Irfan, Imaan (5 June 2024). "The founders of Palestine Action on how to shut down a weapons factory". Prospect Magazine. Cyrchwyd 22 November 2024.
- ↑ Siddique, Haroon; Abdul, Geneva (2025-06-23). "Yvette Cooper vows to ban Palestine Action under anti-terrorism laws". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ "Amnesty International UK's response to Home Secretary's announcement that Palestine Action will be proscribed a terrorist organisation". www.amnesty.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ "Government's Use of Terrorism Powers Against Protest Groups Sets Concerning Precedent". Liberty (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ "Palestine Action to be banned after RAF base break in". BBC News (yn Saesneg). 2025-06-20. Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ "UK bans Palestine Action group after sabotage of military jets". POLITICO (yn Saesneg). 2025-06-23. Cyrchwyd 2025-06-23.
- ↑ Siddique, Haroon (20 August 2023). "Israeli embassy officials attempted to influence UK court cases, documents suggest". The Guardian. Cyrchwyd 19 May 2024.
- ↑ "'Extreme' protest groups face ban under proposal". BBC News (yn Saesneg). 2024-05-12. Cyrchwyd 2024-05-12.
- ↑ Siddique, Haroon (30 September 2024). "Activists say they have proof ministers tried to influence police over Israeli arms firm protests". The Guardian. Cyrchwyd 1 October 2024.
- ↑ "UK government says it will ban pro-Palestinian group after activists broke into military base". Associated Press. 2025-06-23. Cyrchwyd 2025-06-23.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- [https://www.palestineaction.org/ palestineaction.org}}