Palas Lambeth
Gwedd
| Math | eglwys, palas |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Lambeth, Lambeth |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3.98 ha |
| Cyfesurynnau | 51.49556°N 0.11972°W |
| Cod OS | TQ3060779093 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | celfyddyd Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II |
| Manylion | |
Cyfadeilad ar lan ddeheuol Afon Tafwys ym Mwrdeistref Llundain Lambeth yw Palas Lambeth, sydd wedi bod yn breswylfa swyddogol yn Llundain i Archesgobion Caergaint ers bron i 800 mlynedd. Mae wedi esblygu dros y cyfnod hwnnw, gydag arddulliau pensaernïol sy'n amrywio o'r Oesoedd Canol i'r 21g. Saif 400 llath (370 metr) i'r de-ddwyrain o Balas San Steffan ar lan arall yr afon. Mae'r Palas Lambeth wedi bod yn lleoliad amrywiol ddigwyddiadau gwleidyddol a chrefyddol o bwys cenedlaethol.[1]
O fewn cyffiniau'r palas mae Llyfrgell Palas Lambeth, llyfrgell swyddogol Archesgob Caergaint, a phrif ystorfa cofnodion Eglwys Loegr.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]- Palas Lambeth
-
Panorama o gyfeiriad yr afon
-
Ochr gogleddol
-
Ochr deheuol
-
Llyfrgell Palas Lambeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Lambeth Palace", The History of London; adalwyd 18 Mai 2025
- ↑ Emery, Anthony (2006). Greater Medieval Houses of England and Wales, 1300-1500 (yn Saesneg). III. Caergrawnt: Cambridge University Press. tt. 235–237.
