Neuadd y Palé

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Palé Hall)
Y Pale
Mathadeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPale Estate Edit this on Wikidata
LleoliadLlandderfel Edit this on Wikidata
SirLlandderfel Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr182.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9125°N 3.5144°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Plasty Jacobeaidd Gradd II* yw Neuadd y Palé neu Palé Hall a godwyd rhwng 1869-1871 gan y peiriannydd rheilffyrdd Henry Robertson A.S. Saif ger pentref Llandderfel yn Nyffryn Edeyrnion, ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Ddinbych. Fei hatgyweiriwyd yn y 1980au ac mae bellach yn westy.

Roedd y 'Neuadd', fel y'i gelwid yn un o'r adeiladau cyntaf yng Nghymru i greu ei thrydan ei hun ar ddechrau 20c a chynhyrchwyd nwy yma hefyd ar gyfer y plasty a phentref Llandderfel, a leolir tua 1.2 km i'r de o bentref Llandderfel. Yn 1889 arhosodd y frenhines Victoria yma am 10 diwrnod, a chafodd ei diddori gan y sipsi Cymreig John Roberts a naw o'i feibion.[1] Arhosodd Winston Churchill yma yn y 1950au.[2][3]

Perchnogion[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au fe'i prynnwyd gan Ddug Westminster ar gyfer hela.

Prynnwyd a diweddarwyd y gwesty yn 2016 gan Alan a Angela Harper gyda phartner yn gyfrifol am y bwydlenni, sef y cogydd Michael Caines; fe'i agorwyd yn Haf 2016.[4] Roedd Alan yn benaeth Vodaphone UK am rai blynyddoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Tachwedd 2016.
  2. Gwefan papur newydd telegraph.co.uk; adalwyd 12 Tachwedd 2016.
  3. famouswelsh.com adalwyd 12 Tachwedd 2016.
  4. Gwefan swyddogol; adalwyd 12 Tachwedd 2016.