Paganiaeth fodern

Mae paganiaeth fodern, hefyd a elwir yn baganiaeth gyfoes[1] a neo-baganieth,[2] yn cynnwys nifer o fudiadau crefyddol newydd sy'n seiliedig ar gredoau pobl gyn-fodern ar draws Ewrop, Gogledd Affrica, a'r Dwyrain Agos. Er gwaethaf ambell i beth mewn cyffredin, mae mudiadau paganaidd cyfoes yn amrywiol, ac nid oes rhyngddynt yr un set o gredoau, arferion, nag ysgrythurau.[3] Mae rhai ysgolheigion crefydd yn eu hastudio yn grefyddau gwahanol, unigryw, tra bod eraill yn astudio paganiaeth fodern yn un grefydd ddatganoledig.
Mae dilynwyr paganiaeth fodern yn defnyddio ffynonellau ethnograffig, llên werinol, cyn-Gristnogol i raddau amrywiol; mae llawer ohonynt yn dilyn ysbrydolrwydd, gan wybod ei fod yn hollol fodern, tra bod eraill yn honni eu bod yn dilyn credoau cynhanesyddol, neu fel arall, maent yn ceisio adfywio crefyddol cynhenid mor fanwl gywir ag y bo modd.[4] Disgrifir mudiadau paganaidd modern yn aml ar sbectrwm, o adluniaeth amldduwiol, sy'n ceisio adfywio crefyddau paganaidd hanesyddol; i fudiadau eclectig, sy'n blendio elfennau athroniaethau a chrefyddau gyda phaganiaeth hanesyddol. Mae amldduwiaeth, animistiaeth, a phantheistiaeth yn nodweddion cyffredin ar draws diwinyddiaeth baganiaeth. Mae paganiaid modern hefyd yn gallu bod yn anffyddwyr, gan ddilyn credoau paganaidd ond hefyd yn credu mewn seciwlariaeth. Gall paganiaid dyneiddiol, naturiolaidd neu seciwlar adnabod duwiau fel archdeipiau neu drosiadau defnyddiol ar gyfer gwahanol gylchredau bywyd, neu ail-fframio hud fel arfer seicolegol yn unig.
Mae paganiaeth fodern yn cael ei chysylltu â mudiad yr Oes Newydd, gydag ysgolheigion yn amlygu'r hyn sydd ganddynt mewn cyffredin, ynghyd â'r hyn sy'n wahanol rhyngddynt.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Doyle White 2016, t. 6.
- ↑ Adler 2006, t. xiii.
- ↑ Carpenter 1996, t. 40.
- ↑ Adler 2006, tt. 3–4
- ↑ York 1999.
|